Sul diweddaf emyn dieithr, ac nid oeddwn yn deall dim o'r hyn a genid, eithr yn sydyn disgynnodd y geiriau canlynol ar fy nghlust yn grwn a chyfan a glân, fel modrwy—"A thelyn yn fy llaw" Troais i'r llyfr i edrych pa beth. a genid; nid oeddwn yn cofio ym mha emyn y deuai'r ymadrodd i mewn, a chefais ef ym mhennill olaf " Nef y Pererin gan W. J. Parry.
A'i gariad Ef yn trigo yn fy mron
I'm cynnal i,
Mor dda fydd cael yr Iesu ar y don
Wrth groesi'r lli':
Caf ganu mwy a thelyn yn fy llaw
Uwch gofid byd am byth yr ochr draw.
Cwestiwn go ddigalon sydd gan Crwys yn niwedd un o'i ganeuon byw. Diau fod yr ergyd yn un awenyddol a naturiol hefyd. Gwêl y bardd y gwanwyn wedi dyfod i'r fro, a dywed:—
Y gân, hi ddigymydd â'm clyw
A'm llygaid gâr lili ddi—wall,
Ond â pheth y diddeni, O Dduw,
Y diddeni di'r byddar a'r dall?
Naturiol holi. Teg yw ateb fod bydoedd rhyfedd gan Dduw i'r byddar a'r dall. Daw rhyw dâl am bob colled, ac iawn am bob bai. Tirion iawn yw ei ffordd Ef i drefnu gogyfer â'r methedig. Dywedodd Milton am ei ddallineb—"the shadow of His wing ". Y mae arwedd ysbrydol i fyddardod hefyd, lle y gellir dywedyd "Dyna ddistawrwydd ei bresenoldeb Ef". Gweddus i'r holl gread yw rhyw "Ust mawr yn ei wyddfod Ef. Fe ddichon mai un o nodweddion tragwyddoldeb yw distawrwydd, ac un o nodweddion amser yw "sŵn". Silence is of eternity". Dyma fi yn un o'r pyrth i'r byd mawr tawel, di-ffiniau—Ffarwel sŵn y byd!