Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwobrwy, pan gaent gydgyfarfod drachefn ar ôl llawer o ddyddiau.

"Bob 'y mrawd" y gelwid Robert Bowen gan ei holl gydnabod, am mai fel hynny y byddai Gwladus yn sôn amdano,—byth oddi ar pan ddechreuodd Winnie Parry ysgrifennu hanes y teulu hapus hwnnw yn sir Gaernarfon. Ni allai neb, meddai Gwladus, fod wedi ysgrifennu am "Bob" heb yn gyntaf adnabod ei brawd. Ni chodwyd yng Nghymru erioed fachgen mwy hynaws a serchog na Robert, ac ni allai neb, yn enwedig os meddai galon agored a chynnes, aros yn hir yn ei gwmni heb ei alw yn "Bob" neu "Bob 'y mrawd." Yr oedd golwg ar ei wyneb hawddgar, a sŵn ei chwerthiniad iachus, "yn gystal â phythewnos o fôr," yn ôl tystiolaeth Sali Nat, "ac yn well na galwyni o foddion doctor." Er mor felys ei natur, cafodd lawer dyrnod chwerw wrth ymladd â'r byd. Collodd ei rieni pan yn ieuanc, ac er nad oedd ond wyth ar hugain oed, yr oedd wedi bod yn ennill ei damaid ar newyddiaduron ers deuddeng mlynedd. Bu'n brwydro'n galed am flynyddoedd, ond erbyn Nadolig 1895 yr oedd wedi sicrhau iddo ei hun safle cysurus, ac yr oedd ei chwaer fach—oblegid yr oedd Gwladus wyth mlwydd yn iau nag ef—wedi bod yn cadw tŷ iddo ers yn agos i ddwy flynedd. Dyma'r adeg ddedwyddaf ym mhrofiad Bob,—pan fu ef a Gwladus fyw gyda'i gilydd yn Cambridge Mansions; ni wyddai ef beth oedd ystyr "cartref" o'r blaen; ac nid oedd yn rhyfedd fod ei galon yn trymhau wrth feddwl am ffarwelio—feallai am byth—â'r chwaer oedd ei unig berthynas agos yn y byd.

Nid rhyfedd, meddaf, fod Bob yn drist, a phe bai tithau, ddarllenydd mwyn, yn adnabod Gwladus, ni fuaset yn synnu oherwydd ei ofid. Ni chymeraf arnaf ei disgrifio hi. Nid oedd o daldra mwy na chyffredin, ond gan mor lluniaidd a gweddeiddlwys ei chorff, mor urddasol ei hosgo, mor ysgafn ei cherddediad, ymddangosai yn llawer talach nag yr oedd.—O! na allwn dynnu darlun o'i hwyneb fel yr oedd y bore hwnnw,—ei llygaid glasddu treiddgar yn edrych yn hiraethus ar Bob, a phelydr haul y gaeaf yn chware yn ei gwallt, ac yn goreuro ei gudynnau sidanaidd! Yr oedd pob symudiad o'i heiddo, i feddwl Bob, yn llawn barddoniaeth fyw, ac yr oedd yn barod i gredu mai nid ei chwaer oedd hi, ond rhyw ddychymyg Bardd wedi dianc allan o Rieingerdd Gymraeg ac wedi