Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwisgo pryd a gwedd. Pe gwelsai Dafydd ap Gwilym hi, nid am Forfudd neu Ddyddgu y canasai, ond am Gwladus! Anghofiasai Ceiriog ei Fyfanwy, a Mynyddog ei Wen, ie, alltudiai Elfed ei Wenddolen, pe gwelsent hwy hi! Pan ddaeth allan gyntaf fel cantores—canys nid oedd yn anenwog ar y llwyfan—mygai feirniadaeth cyn y canai nodyn, a pharai i bob critig pigog deimlo, fel Balaam gynt, fod angel yn sefyll ar ffordd ei lid a'i genfigen.

Peth rhyfedd yw dechrau siarad am Gwladus! Nid oes modd ar ôl hynny gwneud dim-ond sôn amdani hi. Ond i fyned ymlaen â'm stori, gorau gallaf.

Pan ddaeth yr alwad at Bob i hwylio i Ddeheubarth Affrica, petrusai am amser pa beth a ddylai Gwladus wneud. Yr oedd hi am fyned gyda Bob, ar y cyntaf, ond ar ôl ystyried canfu y buasai hynny yn dyblu'r draul. Yna cynigiodd aros yn Llundain; ond ni fynnai Bob mo hynny ar un telerau. Ynghanol eu petruster, daeth llythyr i law oddi wrth eu perthynas agosaf, sef Mrs. Morris, y Gelli, Llanelwid. Cyfnither oedd hi i'w tad, a galwent hi, yn ôl yr hen arfer Gymreig, yn "Nanti Jên." Bu yn garedig iawn i'r ddau, ac yn enwedig i Gwladus, pan adawyd hwynt yn amddifaid. Nid oeddynt hwythau wedi anghofio ei charedigrwydd, ac nid oedd dim a hoffent yn fwy na gwario wythnos neu ddwy bob blwyddyn yn yr hen ffermdy. Ni allaf roddi llythyr Mrs. Morris fel yr ysgrifennodd hi ef,—oblegid, boed hysbys i ti, ddarllenydd, i Mrs. Morris gael ei chodi mewn boarding-school yn Abertawe, ac nad yw hi byth yn ysgrifennu llythyr ond yn Saesneg. Ond, os goddefir i mi, rhoddaf led-gyfieithiad brysiog ohono. "Yr oedd yn falch iawn gennyf glywed," meddai yn y llythyr, "eich bod yn dod ymlaen mor dda ar y papur, ac yr wyf yn dymuno pob llwydd i chwi yn Affrica. Y mae ymhell iawn i chwi fynd a gadael Gwladus, druan, ond y mae ochr olau i bob cwmwl. 'Rwy'n hyderu y daw Gwladus 'nawr i fyw gyda fi yn y Gelli hyd nes y dychwelwch o'ch taith. Yr wyf fi yn mynd yn hen, a da fyddai gennyf weled fy unig berthynasau o'm hamgylch yn y tŷ. Trueni na ellwch chwi, Bob, roddi tro cyn ymadael, ond nid oes dim i'w wneud gan y dywedwch fod hynny yn amhosibl. Danfonwch air i ddweud pa bryd y caf ddisgwyl Gwladus."