Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid dyna'r llythyr i gyd. Gadewais allan gyngor Mrs. Morris i Bob gario ei Feibl yn wastad gydag ef, a digon o "wlanenni bach." "Rwy'n cofio darllen," meddai'r hen wraig, "am genhadwr unwaith oedd bob amser yn cadw ei Feibl yn llogell ei frest, ac un tro ymosodwyd arno gan haid o'r paganiaid, a saethodd un ato. Ond er eu syndod, ni syrthiodd y cenhadwr, a hwythau wedi eu dychrynu a ffoesant. Yna'r cenhadwr a dynnodd allan ei Feibl, gan feddwl ei ddarllen cyn diolch am ei waredigaeth wyrthiol. Pan agorodd ef, gwelodd fod bwled wedi treiddio drwy'r clawr i ganol y llyfr, ac yr oedd wedi sefyll gogyfer â'r adnod, 'Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed; canys yr wyt ti gyda mi.

Siarsai ef hefyd i beidio colli un cyfle i efengyleiddio'r blacks, a gofynnai i Gwladus brynu pâr o mittens iddi hi, gan fod pethau mor ddrud yn siop Morgans yn Llanelwid.

Ac felly penderfynwyd mai i'r Gelli yr âi Gwladus i aros dychweliad ei brawd.

Dydd Gwener oedd y diwrnod diwethaf i Bob a Gwladus fod gyda'i gilydd, ond yr oedd rhywun neu gilydd yn galw drwy gydol y dydd, fel nad oedd amser ganddynt i fagu eu hiraeth. Ac nid oeddynt heb gwmni diddan, fel yr awgrym- ais eisoes, pan oedd llenni'r hwyr wedi disgyn ar y ddinas fawr, oblegid yr oedd pob cyfaill i Bob yn benderfynol o roddi ffarwel calonnog iddo.

A thra fo'r cwmni yn yfed te a bwyta bara menyn Gwladus, yn Cambridge Mansions, gadewch i mi ddweud wrthych pwy a pha fath rai oedd wedi ymgynnull ynghyd.

Yn y gadair freichiau, ar bwys y tân, eisteddai gŵr ieuanc, tuag ugain oed. Benjamin Morgan oedd efe, mab i Henri Morgan, Plas Newydd, Llanelwid, ac efrydydd yng Nghlafdy Sant Bartholomew. Er taled ydoedd yr oedd gryn ddwy lath o hyd yn nhraed ei sanau—"Benni Bach" y gelwid ef gan bawb. Gerllaw iddo eisteddai Mary ei chwaer,—merch dawel, wylaidd, mor annhebyg i Benni ag y gellid meddwl. Hi oedd ffrind pennaf Gwladus yn y Royal Academy of Music, ac er mai dwy gantores oeddynt, synned y byd! nid oedd rhith cenfigen yn eu hysgaru,—oblegid soprano oedd Mary a chontralto oedd Gwladus. Ni wnaf ond enwi un arall,—bachgen ieuanc pump ar hugain oed o'r enw Arthur Jones.