Efe oedd unig fab Dafi a Mari Jones, Dolau Gwynion, Llanelwid. Yr oedd wedi newydd basio ei arholiad diwethaf fel meddyg, ac wedi ennill iddo ei hun safle anrhydeddus ar staff un o'r clafdai mwyaf yn Llundain. Yr oedd yno eraill o Gymry ieuanc,—ond gan na wêl y darllenydd hwynt ar ôl hyn, ni fyddai ond baich ar ei amynedd i mi eu henwi.
Ni ellir cael, gallwn gredu, olygfa fwy hawddgar na gweled nifer o Gymry ieuanc deallus gyda'i gilydd. Byddai'r hen bobl yn arfer dadlau â'i gilydd ynghylch dyrys bethau'r ffydd; neu ar hirnos gaeaf, wrth olau tân mawn neu goed, adroddent ystorïau am ganhwyllau cyrff neu'r Tylwyth Teg neu'r hen bregethwyr neu ystranciau Twm Sion Cati. Ond er cymaint yw swyn hen atgofion, rhaid i mi gyfaddef mai gwell gennyf fi gyfarfodydd Cymru Sydd. Mae ysbryd sectyddol yn diflannu, fel niwl y bore, o flaen tanbeidrwydd addysg a diwylliant. Er hoffed y gorffennol, nid yw Cymru Sydd yn ddall i'n diffygion a'n beiau, fel cenedl. Gwyddant faint ein dyled i'r "hen hoelion wyth" a fu yn creu cenedl rydd allan o gaethweision yn yr anialwch; parchant yr hyn sydd yn dragwyddol ac anghyfnewidiadwy yn y deddfau a drosglwyddwyd i ni oddi wrth ein hynafiaid; ond dangosant hefyd eu bod yn deilwng i fod yn etifeddion i genedlaethau Eraill yn wir a cymwys i angenrheidiau newydd yr oes. heuasant, ond mae gan y medelwyr hwythau eu gwaith a'u cyfrifoldeb. Y mae efrau wedi eu hau ymysg y gwenith, ac y mae yn rhaid wrth eirf newydd i'w gwahanu. Pobl feiddgar a phenderfynol, felly, yw Cymru Sydd. Edrychant yn wyneb cenhedloedd eraill, ac nid arswydant. Ni pharchant Dwyll, er iddo wisgo penwynni, na Rhagrith, er iddo eistedd mewn lleoedd uchel. Nid oes dim yn gysegredig yn eu golwg ond gwirionedd a chyfiawnder a sancteiddrwydd. O fawredd a gogoniant ieuenctid! Nid ofna, ni flina, ni ddrwgdybia. Ei lygad sydd loyw gan ffydd ac ynni a gobaith, ac wyneba beryglon ac anawsterau—ie, a gorchfyga hwynt—heb wybod na meddwl am eu maint.
Mynych y ceid cyfarfodydd yn ystafell Bob i drin hanes llenyddiaeth Cymru, ac i weu breuddwydion am ei dyfodol. Ond ar y nos Wener y soniaf amdani, ni fynnai'r cwmni fod yn ddifrifol am funud, rhag i dristwch syrthio ar ysbryd Bob a