Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwladus. A phan orffennwyd yfed te, cododd Benni Bach ar ei draed gan ddweud:

"Fechgyn, beth ta ni'n ca'l Eisteddfod heno? 'Cheiff Bob ddim un eto am fiso'dd."

"Clywch, clywch," meddai Gwladus; "a 'rwy'n cynnig Benni Bach yn arweinydd."

Ac ymysg "banllefau o gymeradwyaeth," fel y dywed y papurau, cymerodd Benni Bach ei le fel arweinydd.

"Annwyl gydwladwyr," meddai, "ni wn beth welwch chi ynof fi i haeddu'r fath anrhydedd ("clywch, clywch," ebe Bob)—byddwch chi'r plant bach 'na yn esmwyth, 'rwy'n eich 'nabod chi,—ond fel 'rown yn dweyd, 'rwy'n teimlo fy mod yn hollol annheilwng ("clywch, clywch" oddi wrth Bob), ond gan i mi gael fy ngalw i'r swydd urddasol gan fy nghydwladwyr nid oes dim i wneud ond ufuddhau. Mae yn arferol ar adegau fel hyn i gael cadeirydd—nid am fod ei eisiau, ond er mwyn iddo gael ei odro gan y pwyllgor (cymeradwyaeth uchel)—ac felly mae'n bleser mawr gennyf gynnig bonheddwr i'r gadair sydd yn adnabyddus i'r rhan fwyaf ohonoch, bonheddwr sydd wedi ennill iddo ei hun gymaint o deitlau yn Llundain fel y mae'r A.B.C. bron yn rhy fyr i blethu cwt iddo! (chwerthin). Nid oes eisiau i mi ddweud wrthych fy mod yn cyfeirio at ein cydwladwr enwog ac athrylithgar, Mr. Arthur Jones, F.R.C.S. M.D., M.S., ac felly yn y blaen at yr X.Y.Z."

Crochlefai'r cwmni, a chododd Arthur Jones yn araf a phwyllog.

"Ladies and gentlemen"—dechreuai yn ei Saesneg gwychaf. "Cymraeg, Cymraeg," gwaeddai'r lleill.

"Da chi," torrai Benni i mewn, "byddwch yn foesgar wrth y pendefig.

"Fon'ddigions," meddai Arthur gyda llediaith, "fi balch iawn ca'l dwad fel yma i'r hen Steddfod ardderchog (cymeradwyaeth). Fi siwr y bydde hen graig fi yn balch bod yma hefyd ("clywch, clywch"). Fi'n dyfaru fi dim cofio pwer o'r hen iaith annw'l. Fi byw yn Llynden, a siarad Sysneg o hyd. Ond fi mynd i'r capel Cwmbrag ("clywch, clywch") dwy waith bob blwyddyn (uchel gymeradwyaeth), ond Sysneg yw graig fi, a fi gorffod mynd gyda hi i'r Eglwys, ne byse fi mwy amal yn y capel. Galla fi ddim siarad llawer o Cwmbrag ('dallet ti ddim siarad dim byd arall ddeng mlynedd yn ôl,