Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae terfyn i fawredd cenhedloedd,
A llwyddiant anfoesgar y Sais,
Daw dydd pan na chwyfia ei faner
Ar diroedd enillodd drwy drais;
Daw adeg pan na fydd gwlad Prydain
Ond ynys ynghanol y lli,—
Ond erys gogoniant hen Gymru,
Gwlad dirion, gwlad lonydd,
Gwlad crefydd yw hi.

II.
Cenhedloedd meistrolgar y cynfyd—
Pa le, erbyn hyn, y maent oll?
Eu llynges a'u milwyr rhodresgar?
Eu hanes a'u hiaith sydd ar goll!
Pa le y mae'r Norddman balch creulon
Ormesodd ein cenedl ni?—
Ond erys dylanwad hen Gymru,
Gwlad awen, gwlad canu,
Gwlad llên ydyw hi!

III.
Fe wywa flug urddas brenhiniaeth,
Fe dry pob aur-goron yn ddrain,
Fe blygir pob baner ryfelgar,
Fe wenir pob cleddyf i'r wain,—
Er hynny, ni chilia gwir fawredd,
Fe erys un wlad fach mewn bri,
Nid gwlad y cryf arfog fydd honno,
Gwlad Ceiriog, gwlad Islwyn,
Gwlad Dafydd fydd hi!

Am dymor ar ôl hyn, bu'n anhawdd dwyn gwaith yr Eisteddfod ymlaen. Ond dan arweiniad medrus Benni Bach, ni fuwyd yn hir cyn ailgodi hwyl. Gwasgarwyd yr hud a rowd ar y cwmni gan Gwladus drwy i Benni Bach adrodd yr "englyn" canlynol yn ei chlod.

Ow! Ow! bu Miss Bowen'n bwmian!—grondowch!
Mae'n grand wrthi 'i hunan!
Ei llais dry y llestri cân
Yn goch fel godre crochan!

Gormod gwaith fyddai myned dros yr hanes i gyd; fel y cadeiriwyd Mary yn brifardd, ac y tynnodd Benni Bach y pocer o gâs ymbrela gan weiddi, "A oes heddwch?"; fel yr