Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arweiniodd Bob y côr buddugol oddi ar ben stôl a'r tongs yn ei law yn cadw'r amser; fel y cystadleuodd tri o'r bechgyn ar yr unawd soprano—wedi gwisgo amdanynt hetiau Mary a Gwladus, a chanu "Merch y Melinydd" mewn llais falsetto; ac fel y traddododd Gwladus feirniadaeth yn llawn cynghorion dwfn-ddysgedig ynghylch "intonation" a "phrasing" a "dim-inuendo." Doniol hefyd fyddai adrodd fel y bu tri pharti yn cystadlu ar y ddadl ddifyfyr, a thestunau a beirniadaethau Benni Bach. Ond rhaid i ni beidio ymhelaethu, ys dywed y pregethwyr. Daeth yn bryd ymadael, ac wele Benni ar ei draed yn cynnig "diolchgarwch y dorf aneirif i Dr. Arthur Jones am lywyddu mor ddeheuig. Dyma'r fath bobl sydd eisiau arnom ni yn y Senedd," meddai, ymysg bloeddiadau'r "dorf," "pobl sydd, fel y dywedodd Dr. Jones, heb anghofio'r ' graig' o'r hon y'u naddwyd." Difyr, hefyd, fuasai rhoddi araith Arthur, yn hanner Cymraeg a hanner Saesneg, a'i addewid i wneud ei orau i ddanfon Llinos y Cwm' (sef Benni Bach) "i stydio music yn y Royal Academy, gan fod genti shwd lais sweet, a dim ond iddi gael training and culture, byddai'r Llinos yn sure o fod yn cymaint o success in the musical world â Mary Davies ac Edith Wynne."

Yna cododd Benni ar ei draed, ac yn ei ddull mwyaf difrifol, "dymunai gynnig diolchgarwch cynnes y pwyllgor a'r gynulleidfa i'r teulu parchus oedd yn cyfaneddu yn y lle am eu caredigrwydd yn rhoddi benthyg yr ysgubor i gynnal Eisteddfod ynddi."

Wedi hynny, bu'r fintai o Lanelwid yn trefnu ffordd i gwrdd bore drannoeth er mwyn teithio gyda'i gilydd adref, a bu Arthur Jones yn sibrwd rhywbeth yng nghlust Gwladus a barodd iddi wrido fel rhosyn dan wên yr haul.

Cafwyd hwyl fawr wrth ganu "Hen Wlad fy Nhadau," ac yna ffarweliodd pawb yn galonnog â Bob, a cheisiai Bob, druan, edrych yn llawen, ac yn wir ni allai ymatal rhag chwerthin pan ddywedodd Benni wrth siglo llaw ag ef am y drydedd waith ar y trothwy,—

"Ffarwel Bob 'y mrawd! Da bo't yn nhywyll-leoedd y ddaear! Fe fydd sôn am yr Eisteddfod hon ar fryniau tragwyddoldeb!"