PENNOD I.
DAFI JONES, DOLAU GWYNION
NID oedd neb yn y plwyf a gair drwg i Dafi Jones, Dolau Gwynion. Nid oedd yn hynod am ei gymwynasgarwch yn yr ardal, nac am ei ddiwydrwydd ar y ffarm. chymerai nemor ddiddordeb mewn cyngerdd nac Eisteddfod; ni threiodd erioed am wobr mewn preimin; nid oedd yn athro yn yr Ysgol Sul nac yn aelod o'r Côr Undebol; ac ni feddai ddawn neilltuol mewn seiet na chwrdd gweddi. Mae yn rhwyddach dweud beth oedd Dafi Jones heb fod na dweud beth oedd. "Dyn eitha' diddrwg yw Dafi Jones," meddai Mr. Thomas y gweinidog amdano. "Ych y fi," meddai Gruffudd y Coed, "dyw gŵr y Dolau yn dda i ddim." "Druan â Dafi Jones," meddai hanner y plwyf, "does gydag e elyn yn y byd ond fe ei hunan."
Fe welwch sut un oedd Dafi Jones. Mae miloedd o'i fath i'w cael yng Nghymru, fel ym mhob gwlad arall. Un oedd o'r bobl hynny sydd, fel rheol, yn byw bywyd dinod, heb sôn amdanynt hyd yn oed yn eu cymydogaethau eu hunain. Oni bai y gwelid hwynt mewn cinio rhent neu yn y cwrdd dydd Sul, o'r braidd y gellid tybied eu bod yn byw o gwbl. Pe gofynnech i'w cymydog drws nesaf, ni chlywech stori amdanynt, na sôn am un dywediad o'u heiddo. Ni fydd neb lawer yn siarad yn eu cylch hyd yn oed pan gymerir hwynt yn glaf, a phan fyddant wedi tynnu eu hanadl olaf, ni ddaw ond eu cyd-aelodau yn y capel ac ychydig gymydogion a pherthynasau i'w hebrwng i dir eu hir gartref. Clywir am wythnos neu ddwy ar ôl hynny y gofyniad yn y farchnad neu'r ffair, "A yw e'n wir fod hwn-a-hwn wedi marw?" "Ody, fe fues i yn yr angladd dydd Mercher." "Howyr bach! Fe gas fynd yn syden iawn, do fe ddim?" "O, na, mae e wedi bod yn dost ers miso'dd." "Dier mi, fe geiff y teulu golled ar ei ôl e.—Faint gesoch chi am y menyn heddi?"
Ac ni fuasai yn werth rhoddi mwy o hanes Dafi Jones chwaith nag a geid ar garreg ei fedd ym mynwent Llanelwid, oni bai iddo briodi Mari Jones. Unig ferch Morgan Jones, Dolau Gwynion, oedd Mari, a chan mai'r Dolau oedd