y ffarm fwyaf yn y plwyf, yr oedd llawer o siarad a rhyfeddu pan briododd hi Dafi Jones, Cwm Rhew,—un o'r ffermydd bychain ar lethr mynydd Llanelwid. Nid oedd Morgan Jones, os gellir credu'r cymdogion, yn eithaf bodlon i'r briodas, ond yr oedd y ferch yn benderfynol, yr oedd cartref gan y gŵr ieuanc yn barod i'w wraig,—oblegid yr oedd rhieni Dafi Jones wedi marw—ac nid oedd gan neb air i ddweud yn erbyn ei gymeriad. Felly, cymerodd y briodas le, a bu Dafi a Mari Jones fyw yn gysurus ddigon yng Nghwm Rhew am bedair blynedd, hyd farwolaeth hen ŵr y Dolau, ac yng Nghwm Rhew y ganwyd eu hunig blentyn Arthur.
Methai pawb â dyfalu beth a welai Mari yn Dafi Jones. "Nid fel ta hi ddim wedi ca'l cynnig ar neb arall," meddai Sali Nat, gwraig y gof,—yr hon oedd newydd briodi o'r Dolau, lle bu yn llaethwraig am flynyddoedd—"wa'th dyna Thomas y Gweinidog,—'roedd e' bron dwlu amdani, a fe nese shwd wraig dda i weinidog! Hi geiff y cwbl ar ôl ei thad, a 'do's dim gwell llaw ar 'neyd cramboithe ne' gwca whyad yn yr holl ardalo'dd! A dyna'r Sais 'na sy'n ecseismon yn Llandyfri. Llawer i whech a llawer i swllt ges i gydag e am weud gair drosto fe; ond wrth gwrs mae Mari Jones yn llawer rhy dda i Sais i cha'l hi. A dyna Price yr acshwnêr,—anghofia i byth yr olwg o'dd arno fe pan wedes i wrtho fe ar glos tŷ cwrdd fod Mari Jones ym mynd i briodi! Fe a'th mor wynned â'r sialc, a fe gredes y byse fe'n cwympo lawr yn y man, gen fath gryndod ddaeth drosto fe gyd, a 'ro'dd i ddannedd e'n clatsian yn i ben e, fel ta'r ddyrton wedi cydio yndo fe!—Ond dyna fel mae hi'n digwydd, chi'n gweld," ychwanegai Sali gydag ochenaid, "does neb ohonom ni'n gw'bod beth sy' o'n bleine ni! Pwy feddylse flwyddyn i heddi taw Nat fyse 'ngŵr i? Os credwch chi 'ngair i, fe o'dd y dyn ola' yn y byd fyswn i'n ffansïo ar yr olwg gynta'. "Stim dowt gen i nag o's rhan miwn priodas, a 'nhynged i o'dd ca'l Nat, a thynged Mari Jones o'dd ca'l Dafi."
Chware teg i Sali, nid wyf yn credu y gwyddai hi ei hunan dri mis cyn priodi mai Nat fuasai ei gŵr. Yr oedd Morgan Jones yn hoff iawn o rigan Sali ynghylch Nat, pan oeddynt eto yn caru, a chan fod tafod rhugl gan Sali, nid oedd Morgan Jones heb gael gwybod y cyfan am helyntion ei charwriaeth.