Adroddai Morgan Jones un stori, yn enwedig, am Sali gyda llawer o flas.
"Wel, Sal," meddai wrthi un diwrnod, "shwd mae pethe rhynto ti a William y meiswn 'nawr "?
"O mishtir bach," atebai Sali, "mae William yn ddyn neis, tawel iawn. Mae e'n gweyd fod gento fe dŷ a lle i gadw tair buwch, ag y byse ni'n dou fyw yn gysurus iawn gyda'n gilydd, ag y byswn i'n siwr o 'neyd llysfam dda i'r plant bach.'
"Wel, beth wyt ti'n feddwl amdano fe?"
"Wel, yn 'y ngwir, mishtir bach," atebai Sali, "mae e'n ddyn ffein anghyffredin, a ta pwy ceith e, fe fydd yn lwcus iawn."
"Mae'n well genti e na John y sâr 'te?" ebe Morgan Jones. "Wel, mae'n anodd gweyd," meddai Sali. "Mae John yn shwd ddyn call a phwyllog. Mae e'n gweyd fod gydag e' ugen punt yn y banc, ac i fod e'n ennill tri swllt y dydd a'i fwyd, ag na fyswn i ddim yn mynd i dŷ a'i lond e o blant, fel sy gyda William y meiswn."
"Wel, beth wyt ti'n weyd am John?"
"O, dyn call iawn yw John!" meddai Sali. "Beth mae Nat yn 'weyd wrthot ti?"
"O, peidwch gofyn, mishtir bach!" atebai Sali, gan chwerthin yn wawdlyd. "Mae Nat yn rhy ddwl i weyd gair ar i ôl e!""
Ac er bod Mari Jones yn fenyw gallach na'r cyffredin, mae arnaf ofn mai'r un rheswm a barodd iddi hi briodi Dafi—nid am ei fod yn fwy golygus nac yn fwy cyfoethog, nac yn gallach nag eraill, ond yn unig am ei fod yn well carwr!
Ni ellid dirnad am ddau gymeriad mwy annhebyg. Er yn ieuanc, yr oedd Mari yn ferch grefyddol; ond rhedai Dafi ar ôl arferion gwamal, ac anaml y gwelid ef mewn cwrdd ar noswaith waith. Merch ddiwyd, ofalus oedd Mari; bachgen didoraeth oedd Dafi wedi bod erioed. Ond yr oedd hyd yn oed gwendidau Dafi yn apelio at deimladau dyfnaf natur Mari. Dywedai Dafi wrthi ei fod yn teimlo'n well dyn ar ôl bod yn ei chwmni am hanner awr, a bodlonodd, ar ei chais, i gael ei dderbyn yn gyflawn aelod yn Salem.—A hyn yw'r weniaith fwyaf ei dylanwad ar wraig rinweddol,—mawrygu ei gallu i gadw gŵr rhag profedigaeth—oblegid nid yw'r ganmoliaeth yn weniaith i gyd, os nad yw'r gŵr wedi suddo yn