Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhy ddwfn o gyrraedd gobaith. A chredai Mari Jones ei bod yn cyflawni dyletswydd grefyddol wrth briodi Dafi a'i ymgeleddu rhag ei bechodau parod.

Morgan Jones oedd "prif ddiacon" Salem, fel yr oedd ei dad o'i flaen yntau. Pan aeth yr hen gapel yn rhy fach ac y bu raid ei ailgodi, ar ysgwyddau Morgan Jones y disgynnodd y pen trymaf o'r gwaith a'r cyfrifoldeb. Yn wir, ar adeg yr agoriad, cydsyniai pawb â Mr. Thomas y gweinidog pan ddywedodd na fuasent wedi cael capel newydd oni bai am aberth ac ymroddiad a haelioni Morgan Jones. A phan fu Morgan Jones farw ac yr aeth ei ferch a'i gŵr i fyw i'r Dolau, prif uchelgais a gobaith Mari Jones oedd y cawsai Dafi ei wneud yn ddiacon yn lle ei thad. Ond druan o Mari! nid fel y meddyliai hi amdano y meddyliai aelodau Salem; ac un arall—Morgans y Siop-a etholwyd yn ddiacon.

Ym mhen blwyddyn neu ddwy wedi symud i'r Dolau, dechreuodd Dafi fyned o ddrwg i waeth. Nid oedd eisiau iddo weithio mor galed yn y Dolau ag yng Nghwm Rhew, oherwydd yr oedd yn cadw pedwar neu bump o weision cryfion yn y Dolau. Cyn bo hir, sibrydid ei fod yn gwario llawer o'i amser gyda Nat, yn yr efail neu yn y Red Lion, a'i fod yn hoff o fyned i ffair ac acsiwn. Un tro, rhyw saith mlynedd wedi iddo symud i'r Dolau, daeth achos Dafi Jones o flaen y seiet. Yn y Red Lion y cynhelid y ffest clwb, a Dafi, fel arfer, oedd yn torri'r cig ar ben y ford. Yn lle dod adref yn brydlon, fel y gwnâi Morgan Jones ar y cyfryw amgylchiad, arhosodd Dafi yn y Red Lion ar ôl yr amser cyfreithlon. Daliwyd ef a Nat ac un neu ddau arall; tynnwyd hwy ymlaen o flaen eu gwell; a gorfu iddynt dalu ychydig o ddirwy am y trosedd. Nid oedd Nat yn aelod, ond dowd ag achos Dafi Jones o flaen y seiet. Tystiai Dafi nad oedd wedi yfed gormod; honnai mai digwyddiad hollol oedd iddo aros cyhyd, ac na wyddai, hyd nes y gwelodd yr heddgeidwad, fod y cloc wedi taro deg. Yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau yn fodlon, pe ond er mwyn Mari Jones a'i hen gysylltiadau â'r achos, ymddwyn yn dyner tuag at y troseddwr, ac oni bai am Gruffudd y Coed ni buasai dadl wedi codi yn ei gylch. Ond yr oedd Gruffudd yn un o'r creaduriaid annedwydd hynny na allant gydweled â phobl eraill mewn dim. Ei hoff waith oedd bod yn groes i bob cynigiad, a thaflu rhwystrau yn erbyn