pob cyfnewidiad. Ac nid oedd dim yn fwy wrth fodd ei galon na brathu aelod syrthiedig. Y tro hwn, pan oedd pawb wedi gwneud eu meddyliau i fyny nad oedd Dafi yn haeddu cerydd llym, cododd Gruffudd ar ei draed, ac awgrymodd na ddylai'r eglwys fod yn dyner wrth aelod oedd wedi torri cyfraith y tir. Ni allai Tomos y crydd oddef hyn.
"A yw e'n fwy o ddrwg," meddai yn gyffrous, "fod mewn tafarn am bum myned wedi deg nag am bum myned rhynti? Ody deng myned yn gallu newid natur y weithred? Yn ôl 'y meddwl i, mae'n gymaint o ddrwg fod mewn tafarn am hanner awr wedi naw ag am hanner awr wedi deg. Ody'r eglwys yn mynd i weyd na ddyle neb fynd i dafarn o gwbwl? Mae un brawd wedi gweyd i fod e'n bechod torri cyfraith y tir. Odyn ni fo'lon i'r athrawiaeth yna? Os odyn ni, mae'n rhaid i ni gredu i John Penri gael ei grogi ar dir cyfiawn,—wa'th 'ro'dd e wedi torri'r gyfreth. Fe ballodd llawer o'r hen bobol â thalu'r dreth Eglwys; a ddyle nhw fod wedi ca'l i ceryddu yn y seiet? A mae llawer yn y sir, a rhai yn y plwyf hyn, yn gwrthod talu'r degwm. A odyn ni'n myn'd i ceryddu nhw am beidio ufuddhau i gyfreth y tir? Na, frodyr, 'dyw'r peth mae Dafi Jones wedi neyd ddim yn bechod; 'dyw e ddim ond yn drosedd yn erbyn y gyfreth, a mae e wedi ca'l i gosbi ishws am hynny."
Dyna grynodeb o araith Tomos, ac, yn wir, pan eisteddodd i lawr, edrychai llawer yn ddryslyd, ac ni ddywedodd Gruffudd air o'i ben, oblegid yr oedd ef yn un o'r rhai oedd heb dalu'r degwm. Ond ni osodai'r aelodau yn gyffredin lawer o bwys ar beth a ddywedai Tomos, canys gwyddai pawb fod y crydd yn hoff iawn o gario ei ddryll, ac nad oedd yn sicr yn wastad o wybod ble y gorweddai'r ffin rhwng y comin a pharc y Plas.
Ond nid oedd Dafi i ddianc yn ddigerydd. "Nid cosb, fel y dywedodd un brawd," meddai Tomos Lewis, Coed Weddus, "yw cerydd yr eglwys, ond rhybudd i frawd gwan ei fod yn cyfeiliorni. Fe olchodd yr Iesu draed ei ddisgyblion er mwyn eu helpu i gerdded yn well yn ôl llaw, a dyna ddylem ni amcanu neyd wrth ddisgyblu. 'Do's dim eishe i ni benderfynu os yw e'n fwy o ddrwg fod mewn tafarn ar ôl na chyn deg o'r gloch. Mae Dafi Jones i hunan yn dweud na fyse fe ddim yn lico bod miwn tafarn ar ôl deg, ac mae e'n cyfadde' drwy