hynny i fod e'n styried hynny'n rong. Mae Dafi Jones yn dweyd mai damwain oedd iddo fe fod yn y tafarn wedi'r amser. 'Rwy'n gobeitho y bydd y tro hwn yn rhybudd iddo beidio mynychu tafarndai o gwbwl. Dyna'r ffordd ddiogel." Daeth Nat o hyd i'r hanes drwy Sali, a mawr fu ei sbri am wythnosau.
"Helo, Dafi Jones," oedd y gair cyntaf a ddywedodd wrtho ar ôl hyn, "shwt ych chi 'nawr ar ôl i'ch tra'd chi ga'l eu golchi?",
A phan gyfarfyddai â Dafi mewn ffair neu farchnad, gafaelai yn ei fraich, a dywedai:
"Dewch i ga'l glased gyda fi. 'Do's dim gwell eli i'r tra'd i ga'l,—internal application, fel mae'r doctoriaid yn gweyd. Wir i chi, mae Coed Weddus yn iwso dŵr rhy bo'th i olchi tra'd y saint! 'Does dim posib iddi nhw gerdded yn gwmws byth ar ôl 'ny."
Cafodd yr helynt hwn gryn ddylanwad ar fywyd Dafi Jones. Collodd lawer o'i hen ysbryd nwyfus; âi yn fwy mynych i'r efail, a mwy anfynych i'r cyrddau. Ond er i Mari dreulio llawer awr bryderus wrth ddisgwyl ei gŵr adref, ni fu Dafi yn euog o droseddu'n gyhoeddus, beth bynnag, ar ôl hynny.
Fel hyn, am saith mlynedd ar hugain, bu Dafi a Mari Jones fyw yn ŵr ac yn wraig. Yr oedd gwallt Mari erbyn hyn wedi britho, ac yr oedd rhychiau dwfn yn ei hwyneb yn dystion am lawer ymgyrch â'r byd. Ond pes gofynnech iddi, atebai yn bendant nad oedd neb hapusach na hi yn y plwyf, fod ganddi ŵr caredig, ac mai Arthur ei mab—er mwyn yr hwn yr oedd wedi aberthu cymaint-oedd un o'r bechgyn gorau a fagwyd erioed yng Nghymru.
PENNOD II.
NAT WEDI EI SAETHU.
NID oedd byth awydd am waith ar Dafi Jones,—nid bod ofn gwaith arno, oblegid yr oedd yn barod, fel y gwas hwnnw yn y chwedl, i gysgu wrth ei ochr! Ai i'r gegin