ar ôl brecwast bob bore i ddweud wrth y gweision eu goruchwylion am y dydd, ac yna cerddai oddi amgylch y ffarm, neu âi i weled yr anifeiliaid ar lan yr afon, neu cai afael mewn gwaith twt yn yr ardd neu yn agos i'r tŷ. Ond nid oedd braidd ddiwrnod yn myned dros ei ben na fyddai yn talu ymweliad â Nat yn yr efail. Yr oedd stôl deirtroed ar ben y pentan ynghanol yr huddugl—"stôl y gwrando" y galwai Nat hi—ac yno yr hoffai Dafi wario awr neu ddwy bob dydd. Yr oedd Nat, o hir arfer, wedi dod i edrych ymlaen at ddyfodiad Dafi fel yr edrych pobl y dref am y papurau newyddion. Os digwyddai i Dafi fethu troi i fewn, yr oedd ei absenoldeb yn gwneud bwlch ym mywyd Nat. Nid oedd yr efail yr un hebddo drwy'r dydd. Nid oedd Dafi yn fawr o siaradwr, nid oedd ganddo byth stori i ddweud, ac ni wnaeth jôc yn ei fyw. Ond yr oedd yn wrandawr di-ail, ac nid oedd neb yn gallu llanw "stôl y gwrando" fel efe. Ni chollai air a ddeuai allan o enau Nat, ac ar ôl rhyw ddywediad mwy cellweirus nag arfer, byddai yn rhwbio ei ddwylo ynghyd, ac yn chwerthin yn isel, ac yn dweud, "Nat, bachan helyg wyt ti hefyd." Neu os byddai Nat yn tynnu wrth raffau ei ddychymyg ac yn dweud rhyw stori ryfeddach nag arfer, nid oedd dim a hoffai'r gof yn well na gweled Dafi yn agor ei lygaid glas led y pen ac yn dweud: "Dych chi ddim yn ceisio gweyd y fath beth!" neu, "Lycoch chi 'nawr! Pwy feddylse am hynna, welwch chi?"
Ar fore dydd Sadwrn cyn Nadolig, 1895, aeth Dafi, fel arfer, am dro i'r efail, ond erbyn iddo gyrraedd yno cafodd yr efail ynghau. Yr oedd Nat yn byw mewn tyddyn bach ryw led dau gae oddi wrth yr efail, yr ochr arall i'r Dolau Gwynion. Aeth Dafi'n ôl i'r Dolau, yn bendrwm iawn. Nid oedd y fath beth Yr oedd wedi digwydd erioed o'r blaen, ac ni allai ei esbonio. arno braidd ofn gofyn i'r forwyn fwyaf a wyddai beth oedd yn bod. Eisteddodd ar y sgiw yn y gegin am amser heb ddweud gair. O'r diwedd cymerodd galon a dywedodd:
"Odych chi wedi cl'wed rhywbeth amboitu Nat, Sara?" "Nagw i, mishtir," atebai Sara yn swrth. "Ody e wedi troi'n ddirwestwr, neu beth? Mae'n hen bryd iddo 'neyd hynny!"
"Na," meddai Dafi, "ffeilu dyall own i pam oedd e ddim yn yr efel y bore 'ma."