"Yn dost!" ebe Sali, "O ta fe'n dost mi allwn w'bod beth i 'neyd ag e, ond mae e'n bownd o fod yn ots na phawb yn wastod."
"Beth sy arno fe 'te, yn enw dyn?" gofynnai Dafi yn ddryslyd.
"Mae e wedi ca'l i saethu!" meddai Sali.
"Wel, lycoch chi 'nawr! wedi ca'l i saethu!" ebe Dafi. "Shwd buws hi fel 'ny?"
"O Dafi Jones bach, 'dalla i ddim â gweyd wrthoch chi mor falch mae gen i'ch gweld chi," llefai Sali. "Mae Nat wedi'n siarso i na weda i ddim gair wrth neb, ond 'rwy'n gw'bod y bydd e'n fo'lon i chi ga'l clywed, wa'th 'rych chi ac ynte wedi bod shwt bartners ariod!"
"Ond 'dyw e ddim yn sal iawn?" gofynnai Dafi eilwaith, a phryder yn ei lais.
"Mi dynnes i bymtheg shotsen ar hugain o'i goese fe," meddai Sali, "a'r Arglwydd yn unig a ŵyr faint sy 'nôl yn i gorff e, wa'th fe'n hadodd i hala i moyn doctor."
"Ond ffordd digwyddws y peth?" gofynnai Dafi.
"Wel, mi weda i chi," atebai Sali, gan eistedd gogyfer â Dafi, a chornel ei ffedog yn ei llaw yn barod i sychu'r dagrau oedd yn llanw ei llygaid. "Neith'wr 'roen nhw'n rafflo'r twrci yn y Red Lion, a me fuodd Nat mor ffol â phrynu dou dicet whech cheinog yr un. 'Rown i'n gweyd wrtho fe fod gydag e lawer rhytach gwaith na mynd i wasto'i arian fel 'ny. Wetswn i ddim byd wrtho fe, Dafi Jones, ta fe'n ennill yn y raffls yma weithe.. Ond welsoch chi 'rio'd shwd griadur anlwcus â Nat! Dim ond i chi gadw e yn yr efel i bedoli cyffyle, ne' neyd arad, ne' gwyro swch ne' gwlltwr, mae e'n ol-reit. Ond man eiff e ma's dros drothe'r efel mae fel ta'r Gŵr Drwg i hunan yn i ddilyn e! Mi fadewodd yn gynnar â'r efel neithiwr, ac ar ôl molchyd a gwishgo, dyma fe lan i'r pentre i'r raffl. 'Ro'dd gydag e swllt a naw pan madews e â'r tŷ heb law'r ddou dicet whech o'dd e wedi brynu cyn mynd. Fe driodd ddwywaith, medde fe, gyda'r co'd, ond 'ro'dd e o rwle ar ôl! Fe ddylwn i fod yn gwbod yn well erbyn hyn na gellwn iddo fe fynd i'r raffls yna! Wa'th dyna pwy ddwarnod o'r bla'n, pan oedd Robin y Teilwr yn rafflo Josephys-'ro'dd Nat, wrth gwrs, yn bownd o dreio'i lwc, os gwedws ynte. A phwy les, gwedwch chi, nese'r Josephys 'na iddo fe ta fe