wedi'i ennill e? Achos ni ddarllense fe ddim ohono fe ta fe byw i oedran Methiwsala! Ond 'ro'dd yn rhaid i my Lord i dreio'i lwc, a fe halws dri swllt wrth dreio, a chrwt bach John Sa'r cas e wedi'r cwbwl, er nag oedd gento fe ond un ticet—." "Ond, Sali fach, beth sy gyda hyn i 'neyd â saethu Nat?" gofynnai Dafi, dipyn allan o dymer.
"O chi'n gweld," atebai Sali, "'ro'dd yn rhaid i Nat 'neyd yr un peth neithiwr wedyn, a rhynt yr arian halws e ar gwrw—a cha i ddim gwbod faint a'th yn y ffordd hynny—a'r rafflo, mi halodd y swllt a naw bob dime, ag 'ro'dd e mor bell o ga'l y twrci yn y diwedd ag o'dd e ar y dechre. Ag ar ôl hala'i arian i gyd dyma fe yn gweyd wrth Twm y Crydd y cese fe row man ese fe gatre.
'Pam?' mynte Twm, wa'th 'do's dim mae Twm yn lico'n fwy na chlywed clacs y gymdogaeth i gyd.
'O,' mynte Nat, "'rown i'n meddwl ca'l cinio tshêp erbyn Nadolig ond wiw wedi hala pob ffyrlling heb ga'l y twrci.'
'Dere gyda fi,' mynte Twm, 'a mi ffeinda i gino Nadolig i ti am ddim.'
A dyna fu. A'th Twm i moin ei ddryll, a dyma'r ddou, os gwelwch chi'n dda, i go'd y Parc-Nat yn ffysto a Twm a'r dryll. Ac miwn tipyn dyma Nat yn cl'wed yr-r-r-r-r mowr amboitu'i ben, a dyma hen geiliog ffesant mowr yn codi, a 'bang, bang,' mydde dryll Twm Crydd, a chyda hynny dyma Nat yn clwed fel ta mil o binne bach yn i goese, a mi rows y fath sgrech nes oedd yr holl le yn ego i gyd!
'Be' sy'm bod?' mynte Twm. '
Ym bod?' mynte Nat. "Stim byd ym bod ond dy fod di wedi lladd dyn!'
'Mi gas Twm shwt ofon, wa'th wydde dim un oheny nhw nag oddi hi ar ben ar Nat, a mi gariws Nat ar i gefen yn streit gatre'. O fe ges shwt start pan gweles i nhw'n dwad, un ar gefen y llall, am un ar gloch bore heddi! Ac yn i hyd yn y gwely mae Nat wedi bod byth oddi ar 'ny, a'r nefo'dd fowr a ŵyr pryd ceiff e nerth i godi!'
"Ond pam na fysech chi wedi hala i moyn y doctor?" gofynnai Dafi'n gyffrous. "Ta chi ddim ond hala gair i'r Dole, fe fyswn i wedi hala'r crwt ar unwaith ar gefen y poni i Landyfri."