Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ei grogi?" gofynnai Nat yn syn. "Na, chese fe ddim o'i grogi, glei."

"Shwd na chese fe?" meddai Sali, "ac ynte wedi lladd dyn." "Sali fach, 'dwyt ti ddim yn deall y gyfreth," atebai Nat yn ddifrifol. "Do's dim cosb am yn lladd i heb lesens, wa'th 'dw i, ti'n gweld, ddim yn y gêm."

"Lycoch chi 'nawr," meddai Dafis, gan chwerthin, "bachan doniol wyt ti, Nat, hefyd! Yr wyt ti'n bownd o ga'l dy whits ta ti'n marw'r fyned nesa! Ond mae'n rhaid i ti ga'l doctor, na chyffra'i. A mae Arthur ni'n dwad gatre heno am wythnos—

"Arthur yn dwad gatre?" ebe Nat, gan hanner codi yn y gwely. "Dyw e ddim ar ben yn Llynden, odi e?"

"O, nag yw," atebai Dafi gyda balchder. "Mae e wedi ca'l swydd uchel iawn yn un o'r hospitals yco, ond i fod e'n ca'l tipyn o wyle gyda nhw 'nawr. Ag os wyt ti'n folon mi ddwa i lawr ag e heno ne' fory, a ddaw neb i wbod dim am y peth." Nid oedd eisiau cymell rhagor ar Nat. Bodlonodd i awgrym Dafi, ac ym mhen ychydig aeth Dafi Jones adref i'r Dolau i baratoi i fyned i gwrdd ag Arthur yn y stesion.

PENNOD III.
"YR HEN BINACL."

PAN alwodd Arthur y noson honno i weled Nat, deallodd nad oedd yr hen greadur wedi cael llawer o niwed, ac mai dim ond eisiau llonyddwch am ddiwrnod neu ddau oedd arno i'w lwyr wella. Fel yr oedd y lwc yn bod, safai pan aeth Nat gryn ddeugain llath neu ragor oddi wrth Tomos yr ergyd allan, ac nid oedd y shots wedi gwneud rhagor na chrafu ei groen, a'i ddychrynu ef a'i gyfaill bron o'u synhwyr—

Pan glywodd Nat farn Arthur am y ddamwain, braidd na neidiodd o'r gwely ar unwaith gan ei lawenydd. Ond ar daer gymhelliad Arthur bodlonodd aros yno, hyd fore dydd Llun, beth bynnag. Yr oedd pawb yn gyfarwydd â "chlefyd dydd Sul" Nat, a gwyddai yn dda na fuasai neb yn synnu oherwydd ei absenoldeb o'r cwrdd. Os gallai fod wrth ei