waith ar fore dydd Llun, credai y buasai'n hollol ddiogel. Ond yr oedd Sali yn arfer myned i'r cwrdd bob dydd Sul. Yn wir, ymffrostiai Sali yn ei ffyddlondeb i'r moddion, a rhaid oedd iddi fyned i Salem yn y bore, ond nid heb dderbyn gorchymyn pendant ar iddi beidio ynganu gair wrth neb ynghylch yr helynt oedd wedi gorddiwes Nat.
Druan o Nat! Os oedd yn meddwl cadw'r anap yn gudd, yr oedd wedi gwneud camsynied dybryd â gallu siarad Sali. Nid oedd neb erioed wedi cyhuddo Sali o gadw dim yn gêl, a gwyddai'r cymdogion yn fynych fwy o hanes Nat nag a wyddai ef ei hunan. Teimlai Sali yn awr fod ganddi gyfle na chafodd erioed o'r blaen i gwyno wrth ei chyfeillion. Yr oedd pawb wedi hen flino ar ei cheintach yn erbyn Nat a'i ddifrawder, yn erbyn Gruffudd y Coed am fod mor "ddeir" cyn talu ei gownt amser Calan Gaeaf, yn erbyn Morgans y siop am nad oedd yn gwerthu gwell te am hanner coron nag a gawsai yn Abertawe am ddeuswllt y pwys, ac, yn wastad, wrth gwrs, yn erbyn gwraig y Red Lion a Mr. Thomas y gweinidog. Ond ni chafodd erioed achos o'r blaen i ofyn am gydymdeimlad oherwydd afiechyd yn y teulu. Yr oedd hi a Nat wedi mwynhau iechyd di-fwlch ar hyd eu hoes, ac ni fu meddyg yn y tŷ oddi ar pan wellodd Sara'r ferch o'r frech goch a'r dwymyn doben bymtheng mlynedd yn ôl. Weithiau byddai Sali'n cwyno nad oedd hi ei hunan yn "hanner da," fod ei "hana'l yn pallu," fod "fel rhyw gwlwm yn ei brest," neu "ei chalon yn wan." Bryd arall byddai yn dweud wrth Mari Jones fod "ofon arni ei bod yn mynd i ga'l twtsh o'r gwynegon," a'i bod hi "weithe'n ffeilu'n lân codi un go's ar ôl y llall gen mor llipa 'rodd hi'n teimlo." Ond credai Sali nad oedd hi erioed wedi derbyn y cydymdeimlad a ddylasai oddi ar law ei chydnabod.
"Garw mor dwyllodrus yw golygon!" dywedai ar adegau wrth Mari Jones. "Drychwch ar Mrs. Morris y Gelli, 'nawr. Mae hi'n wastad yn edrych yn wannaidd, a dim ond iddi 'weyd fod ei bys bach hi'n gwynegu, dir gaton ni! fel mae pawb yn tyrru'n rownd iddi. Mae Gwladus yn dwad lawr yn unig swydd i thendo hi, a Thomas y gweinidog yno byth a hefyd, a Nat ni a phawb am y cynta' yn galw i gweld hi. Ond amdana i druan, mi gewn i farw fel anifel mewn ffos heb neb yn gofyn shwd w i, na beth sy arna'i, na ffeirad na