Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phregethwr yn gweyd pader na bendith,—dim ond achos bod tipyn o liw coch ar 'y ngwyneb i! 'Do's neb, Mari Jones fach, ond y Bod Mawr a finne yn gw'bod faint w i'n gorffod ddiodde' bob dydd o'r flwyddyn, heb na Nat na neb, yn gneyd mwy o hidans ohona i na phe byswn i'n garreg ar yr hewl! Fel mae'r Gair yn gweyd"—terfynai gydag ochenaid "Y galon a ŵyr ei chwerwder ei hun."

Ond o'r diwedd yr oedd afiechyd na allai neb ei anwybyddu na'i ddibrisio wedi talu ymweliad â thŷ Sali, ac yr oedd yr hen wraig yn ireiddio fel chwyn ar ôl cawod o law. Pan ofynnwyd iddi gan hwn a'r llall ar ôl y cwrdd sut yr oedd Nat, gostyngai ei llais, sibrydai yng nghlust yr ymofynnydd fod Nat wedi cael ei saethu, a'i fod yn gorwedd yn ei wely gartref! ac ni wyddai hi beth a ddeuai ohono! Dilynid hyn gyda siars i beidio dweud gair wrth neb, neu ni fuasai'n gwybod beth a fuasai'n digwydd! Cyn hanner-dydd dydd Sul, yr oedd y newydd wedi tramwy fel tân gwyllt trwy'r plwyf. Nid oedd diwedd ar yr ymwelwyr i dŷ Nat yn y prynhawn;—Tomos y crydd, John y saer, Gruffudd y Coed, William y meiswn, a Jaci'r hwper, a "thyrfa fawr" meddai Nat, "na allai neb eu rhifo." Synnai Nat ar y dechrau; yna aeth i dymer ddrwg; ond ymhen ychydig daeth i deimlo cymaint o bleser a balchder â Sali ei hun yn nifer yr ymwelwyr. Yr unig beth a obeithiai Nat oedd na ddeuai Tomos Lewis, Coed Weddus, i wybod am y ddamwain; oblegid gwyddai nad arhosai yr hen ŵr yn esmwyth am eiliad heb dalu ymweliad ag ef. Tomos Lewis, dylaswn ddweud, oedd y diacon hynaf yn Salem, ac yr oedd wedi bod am ddeugain mlynedd a rhagor yn un o golofnau'r achos yno.

Ffarm fach a lle i gadw deg neu ddeuddeg o wartheg yw Coed Weddus, yn gorwedd rhwng Dolau Gwynion a'r pentref. Saif ar ael bryn teg sy'n edrych tua'r de. Y mae yn dal gwên gyntaf haul y bore, ac yn derbyn ei gynnar a'i ddiweddar wres. O glos y tŷ ceir golygfa brydferth o Ddyffryn Tywi—dyffryn mwyaf swynol Cymru, yn ôl tyb y trigolion. Bu amser pan nad oedd yr holl fryn ond rhan o gomin y plwyf, ond ar ddechrau'r ganrif fe basiwyd deddf i gau i mewn y comin, a phrynodd hen-dad-cu Tomos Lewis tua phedwar ugain cyfer o'r tir gerllaw'r pentref. Ond er mai Tomos Lewis oedd perchen gwaelod Coed Weddus, ac er nad oedd ganddo ef a