Phegi ei wraig na mab na merch yn fyw, yr oedd yn eithaf tyn arnynt yn fynych i ddwyn deupen y llinyn ynghyd. Dywedai Nat fod gan Morgans y siop un amser bymtheg cant o arian ar y tir, a gwyddai pawb fod Morgans yn gofyn iws gweddol am arian. Ond yr oedd Tomos a Phegi yn bobl ddiwyd a gofalus, ac yr oedd eu hamgylchiadau wedi gwella cymaint yn y blynyddoedd diwethaf fel y dywedid fod Morgans wedi cael ei dalu ymaith yn llwyr.
Priodolai Tomos y cyfan i ddaioni Rhagluniaeth. Pan benderfynwyd ailgodi Salem, yr oedd hi'n amser cyfyng iawn ar Tomos Lewis. Blinai oherwydd na allai roddi rhagor tuag at yr achos—yr oedd hynny yn amhosibl. Ond yr oedd chwarel bach ar ei dir. Cynigiodd Tomos, gan na allai roddi aur ac arian, gymaint o gerrig ag a fyddai yn eisiau, yn rhad ac am ddim. Derbyniwyd y rhodd gyda diolchgarwch, a gwelwyd cyn bo hir na ellid cael gwell cerrig yn un lle yn yr ardal. Daeth "Cerrig Coed Weddus" yn enwog, a chan fod pentref Llangoediog gerllaw yn cynyddu'n gyflym oddi ar pan agorwyd y rheilffordd drwyddo, gwnaeth Tomos Lewis arian glew o'r chwarel.
Cymerai Tomos Lewis olwg ddifrifol iawn ar fywyd, yn ei holl agweddau. Ni welodd neb ef yn gwenu er pan yn fachgennyn, ac nid oedd dim mor atgas ganddo â'r ysmaldod hanner rhyfygus a nodweddai ymddiddanion Nat. Er ei fod yn siaradwr rhwydd a huawdl yn gyhoeddus, nemor i air a geid oddi wrtho ar achlysuron cyffredin. Yr oedd yn un o'r dirwestwyr cyntaf a mwyaf selog yn y plwyf; ac er y byddai yn tynnu ambell i fwgyn cyn mynd i'r gwely, ni welodd neb Nid ef a phib yn ei ben mewn tŷ dieithr neu ar y caeau. rhyfedd felly, gan neb oedd yn adnabod y ddau, na allai Nat ddygymod â Tomos Lewis am eiliad. Er eu bod yn gymydogion agos, nid oedd fawr o gydnabyddiaeth rhyngddynt. Yr oedd Tomos rai blynyddoedd yn hŷn na Nat, ac nid oedd Nat, er ei holl anystyriaeth, wedi colli yn llwyr ei ofn bachgennaidd o'r hen Biwritan didwyll a diwyro. Nid oedd Nat yn fodlon cyfaddef, hyd yn oed wrtho ei hun, fod ofn Tomos Lewis arno, ac, fel y gwna pobl dan y fath amgylchiadau, rhedai i eithafion haerllugrwydd er mwyn profi ei ddifrawder. Y funud y canfyddai Nat gorff talgryf Coed Weddus yn croesi