trothwy'r efail, dechreuai ddefnyddio y geiriau gwylltaf. Safai Tomos Lewis yn ddifrifol ac yn fud. Nid atebai air, ond cyflwynai ei neges yn ei ddull tawel, naturiol, troai ei gefn, ac ymadawai yn ebrwydd. Dim ond ar un adeg y temtiwyd Tomos i ateb Nat yn ôl. Digwyddai Nat y tro hwnnw fod yn cylcho wheels i Dafi Jones, ac adeg go wlyb oedd hi yn wastad ar y prydiau hynny yn hanes Nat. Ar ganol y rhialtwch pwy ddeuai i mewn i'r efail ond Tomos Lewis.
"Helo, 'r hen Binacl y Deml," meddai Nat yn ei ddull gwatwarus, ar goedd yr efail i gyd, "rych chi wedi dishgyn o'r nefolion leoedd o'r diwedd i w'bod fod eishe hoelon dan eich sgidie chi? Shwd mae'r cwar gyda chi yco, e'. Mae'r creigleoedd yng Nghoed Weddus, na chyffra i, yn dwyn gwell ffrwyth na dyfnder daear! Ha! ha! Jawst, bois, mae'n rhaid i fi gymryd dosbarth yn Salem i ddangos gyment o'r Sgrythur wi'n wbod! Pwy o'dd y gŵr b'neddig hynny yn y Beibl, stopwch chi, o'dd yn gweyd, Arch i'r cerrig hyn fod yn fara? 'Stim dowt nag o'dd e'n perthyn i Tomos Lewis 'ma."
"Nathaniel," atebai Tomos, heb newid dim ar ei wedd na chodi ei lais, "mi ellwch chi 'neyd faint fynnoch chi o sbri arna i, a 'weda i 'run gair 'nôl wrthochi. 'Rych chi'n gwbod eich Beibl yn ddigon da i gofio fod y gŵr doeth yn dweyd wrtho' ni am beidio ateb y ffôl yn ôl ei ffolineb. Ond cofiwch hyn, mor wired â bod barn yn ein disgwyl ni i gyd, 'oddefa i ddim i chi na neb arall i 'neyd sbort o'r Beibl yn 'y nghlyw i."
Cywilyddiodd Nat dan y cerydd, oblegid yr oedd ei gydwybod ei hun yn ei gyhuddo, a byth oddi ar hynny bu yn ofalus o'i eiriau pan oedd gŵr Coed Weddus gerllaw. Ond er i Tomos gael y gore yn hyn, glynodd y llysenw a roddodd Nat iddo fel y gwahanglwyf wrth was y proffwyd, ac wrth yr enw "'R hen Binacl" yr adweinid yr hen ddiacon ymysg crytiau'r ardal byth ar ôl hynny.
Hawdd deall, gan hynny, nad oedd Nat yn dymuno gweled wyneb Tomos Lewis wrth erchwyn ei wely cystudd.