ar pan fuodd hi farw, a gyda'r hen Dwmi'r Gelynnen gynt y clywes i'r hanes."
"A mi fuodd hi farw yng ngho'd y Parc?" gofynnai Arthur. "Do, mi cawd i yno'n farw reng ryw fore dydd Nadolig ddeugen o flynydde'n ôl," ebe Nat. "Ond i fi ga'l gweyd y stori yn daliedd wrthoch chi, fe ddylswn ddweyd mai mewn tŷ bach ar bwys y pentre 'ro'dd hi'n byw. Parc-y-Beili o'dd enw reit y tŷ, ond 'ro'dd pobol yn ei alw e'n Six Props, am mai dim ond hen goedach o'dd yn i gadw e fyny. Hen feniw fach fitw, a'i chefen yn grwca fel bwa sa'th, o'dd Malen. 'Ro'dd hi'n ca'l rhyw gyment o wrth y plwyf, ac yn whilo'i thoc yma a thraw ar hyd yr ardal. Ac fe fydde'n fynych iawn yn yr allt yn crynhoi co'd a'u llusgo nhw i Six Props. Ond ryw nos cyn y Nadolig fe'i dalw'd hi gan y rhew yn yr allt, a fe gas haint neu rywbeth, a bore dranno'th mi cespwd hi gen weision y Dole yn gorff marw!"
"Dier mi," meddai Arthur, er mwyn gwneud rhywbeth i gadw'r heddwch, "mae'n syndod gyment sydd wedi digwydd mewn un plwydd ta ni ddim ond gwbod ei hanes i gyd.
"Wedi digwydd! Ody, mae e'n syndod," ebe Nat. "Ond nid dyna ddiwedd y stori. Fe a'th y gweision i moyn help, ag 'mhen tipyn fe esbwd â'r corff i Six Props. Halodd Morgan Jones, eich tad-cu-fe o'dd y guardian ar y pryd, wyddoch—i moyn tad John y Sa'r i neyd coffin iddi, a mae John yn gweyd na chas ei dad ario'd shwd waith i 'neyd, gynt na chwedyn. Chi'n gweld, 'ro'dd Malen yn weddol grwca pan o'dd hi'n fyw-bron yn wastad fel ta hi yn i chwrcwt—ond 'ro'dd hi wedi rhewi fynydd ar ôl marw, nes o'dd hi fel pellen a'i phen yn cwrdd â'i thra'd."
'Yn wir i chi,' mynte Dafydd, tad John, pan gwelws e hi, "'do's dim iws mesur rhywbeth fel hyn. Mae'n llawer gwell i dodi hi mewn sach neu ryw hen goffor. 'Do's dim posib gneyd coffin i tharo hi.'
'Ond,' mynte'ch tad-cu, 'alle ni ddim i mystyn hi ar y ford 'ma a dodi pwyse ar i phen hi, i chadw hi'n gwmws?'
'Wel, mi allwn ni dreio, ta beth,' mynte tad John, a dyna lle buon nhw yn mystyn i heilodau hi, a dodi un hanner can pownd ar ei brest hi, a phob o un ar ei dwy thro'd hi. Ond 'ro'dd dim posib cadw'r hen Falen yn i hyd. Erbyn bod eich tad-cu yn gellwng i phen hi'n rhydd, dyna lle byse hi'n codi ar