Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei heiste'; ac erbyn i Dafydd ellwng ei thra'd hi'n rhydd, dyna hi'n cico'i thra'd yn yr awyr, fel gwelwch chi ebol tairblwydd."

"Nathaniel," dywedai Tomos Lewis yn ei lais cryf, a chwmwl ar ei wyneb, "allwch chi ddim siarad am gorff marw ond gyda gwamalrwydd rhyfygus?"

Ni wyddai Arthur beth i wneud yn iawn rhwng y ddau. Taflodd olwg ymbilgar ar Nat. Ond aeth y gof ymlaen â'i stori yn ei ddull mwyaf diniwed.

"Dw i ddim ond gweyd calon y gwir wrthoch chi," meddai, "ac os bosib eich bod chi'n credu y bydde'n well peidio gweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, os gwedodd y jystysed yn Llangoediog. Ond dyna'r hyn own i'n weyd," ychwanegai Nat, gan droi at Arthur, "ro'dd eich tad-cu a Dafi'r Sa'r yn ffeilu deall beth i neyd, ac o'r diwedd mynte Dafi:

'Beth ta ni'n clymu'r corff wrth y ford, a me gymhwysith ei hunan wedyn falle?'

'Eitha gwir,' mynte'ch tad-cu, a fel 'ny gnesbwd. 'Nawr, chi'n gweld, 'rodd yn arferiad yn yr hen amser i wylad y corff, a'r nosweth hynny 'rodd Dafi'r Sa'r a Twmi'r Gelynnen—fe o'dd ail was y Dole y flwyddyn hynny, mi ddylswn weud—i fod i wylad gyda'i gilydd. Amser Nadolig o'dd hi, ag 'ro'dd hi'n oer dychrynllyd. 'Ro'dd yr hen Falen, druan, wedi crynhoi digon o go'd tân erbyn y gaea', ac wedi dodi nhw yn y pen isha. A dyna lle'r oedd Dafi a Twmi yn eiste i lawr wrth y tân co'd, a chorff Malen wedi ei glymu wrth eu hochor nhw. 'Mhen tipyn 'roedd y tân yn mynd yn ishel, a dyma Dafi'n gweyd wrth Twmi:

"Twmi,' mynte fe, 'cer i'r pen isha, da machgen i, a dere a choeled o go'd yma.'

Wrth fod Twmi'n dwad 'n ôl, 'Dir!' mynte Dafi wrtho fe, 'beth ta'r hen Falen yn dy weld di, Twm, yn llosgi ei cho'd hi fel hyn! Mae e'n ddigon i neyd i'r hen lodes ddwad 'nôl o'r ochor draw.'

'Paid â siarad fel 'na,' mynte Twmi, wa'th un ofnus iawn o'dd Twmi erioed.

'Wel, cer i moyn coeled arall,' mynte Dafi, 'a mi 'newn y tro wedyn dros y nos,' a dyma Twmi ma's i moyn rhagor. Gyda'i fod e ma's dyma Dafi dan y ford, a'r fyned y da'th Twmi nôl a llond ei gôl o go'd, dyma Dafi yn torri y rhaff o'dd