Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn mynd yn rownd i frest yr hen Falen, a dyma hi'n sbonco ar ei heiste gyda fod Twmi'n pasio heibio'r ford.'

'Y Mowredd annwl!' mynte Twmi, a lawr cas y goeled go'd fynd, a ma's rhedodd Twmi, ac i'r Dole ag e nerth tra'd i weyd fod 'rhen Falen wedi codi o farw'n fyw. A chyn i fod e wedi dibennu i stori dyma Dafi yno a'i wynt yn 'i law, wa'th mi gas ynte ofon fod yn Six Props wrtho'i hunan a'r hen Falen fel'ny ar i heiste!'

Os oedd Tomos Lewis yn ddyn difrifol, yr oedd hefyd yn ŵr call, a gwelai na allai wneud un daioni wrth siarad rhagor â Nat yn y dymer yr oedd ynddi. Felly, ar ôl ychydig o eiriau caredig yn gobeithio y byddai Nat yn dal i wella, a gofyn yn gynnes i Arthur ynghylch ei fywyd a'i ragolygon yn Llundain, ymaflodd yn ei hat ac aeth allan o'r ystafell.

"'Rych chi ddim yn mynd, Tomos Lewis?" gofynnai Sali wrth y drws. "Wel, diolch yn fawr i chi am alw."

"Ha, Ha!" chwarddai Nat ar ei gefn yn y gwely, "rown i'n meddwl y bydde stori Malen yn rhy gryf i stymog yr Hen Binacl, wa'th 'ro'dd hi'n rhyw berthynas i dad e, ac 'ro'dd pobol yn synnu iddo fe'i gellwng hi fynd ar y plwydd. Ond, na chyffra i byth o'r fan yma, 'rown i'n dishgwl iddo fe bob myned i ofyn os cese fe ddarllen a gweddïo gyda fi."

PENNOD V.
MRS. MORRIS Y GELLI.

PE bai rhywun yn gofyn, "Pwy yw'r person mwyaf parchus yn Llanelwid?" tebyg y byddai mwy na hanner y plwyfolion yn ateb, "Mrs. Morris y Gelli." Yn un peth, yr oedd yn gyfoethog, yn ôl dull Llanelwid o gyfrif cyfoeth. Hi oedd perchen y Gelli oddi ar farwolaeth ei gŵr ryw ugain mlynedd yn ôl, ac er nad oedd maint y ffarm yn fawr, eto yr oedd yn rhydd oddi wrth bob dyled. Nid oedd gwell stoc o anifeiliaid yn y sir, a synnai ffermwyr y plwyf wrth weled y fath wedd oedd ar wartheg y Gelli bob amser. Dywedid, ymhellach, fod gan Mrs. Morris arian lawer yn dwyn iws; ac ati hi neu at Morgans y Siop yr âi pawb pan am fenthycia arian i brynu tir neu i dalu'r rhent. Nid oedd byth heb "wy addo" yn y banc, ac nid oedd gan neb ond hi a'r offeiriad