a Morgans y Siop y fath beth â cheque book. Mynych, gan hynny, yr oedd ar ei llaw i wneud cymwynas â'i chymydogion,. hyd yn oed y rhai mwyaf cefnog ohonynt. Edrychai Nat arni fel un oedd ond ychydig yn is na gwraig y Plas, ac ymddangosai Anghydffurfiaeth yn respectable i Mr. Gwyn, yr offeiriad, pan gofiai am Mrs. Morris. Pan fyddai Dafi Jones yn ymofyn anfon arian i dalu am ysgol Arthur ei fab, drwy cheque Mrs. Morris y byddai yn arfer gwneud hynny. Sibrydid bod ganddi arian yn y rheilffordd; beth bynnag, amlwg oedd i bawb fod Driscoll y stesion yn myned allan o'i ffordd i fod yn daliaidd iddi, pan fyddai yn talu un o'i hymweliadau anfynych â'r dref. Faint bynnag oedd ei chyfoeth, gwyddai pawb mai hi a gafodd y ben-siâr o arian ei hewythr, yr hen Ddoctor Bowen, yr hwn a fu farw yn union wedi dychwelyd i Lanelwid ar ôl treulio ei oes ar y môr fel meddyg yn y llynges.
Mrs. Morris oedd un o golofnau'r achos yn Salem. Cyfrannai ddeg punt y flwyddyn tuag at y weinidogaeth—cymaint arall â Morgans y Siop. Tanysgrifiai hefyd yn haelionus at bob achos da,—at y Feibl Gymdeithas, y Genhadaeth, a'r Colegau enwadol, ac at dreuliau'r capel. Yn adroddiad blynyddol y colegau, ei henw hi oedd y cyntaf dan enw Llanelwid. Rhywbeth fel hyn y rhedai'r adroddiad am flynyddoedd:—
| £ | s | c | |
| Mrs. Morris, Gelli | 0 | 10 | 0 |
| Mr. Morgans, Cambrian House | 0 | 5 | 0 |
| Mr. D. Jones, Dolau | 0 | 2 | 6 |
| Mr. T. Lewis, Coed Weddus | 0 | 2 | 6 |
| Mr. Morgan, Plas Newydd | 0 | 2 | 6 |
| Rev. W. Thomas | 0 | 3 | 0 |
| Small Sums | 1 | 13 | 2 |
| TOTAL | 2 | 18 | 8 |
Nid yn Gymraeg, os gwelwch fod yn dda! Mae aelodau Pwyllgor y Coleg wedi bod yn gwrthdystio yn huawdl a phenderfynol yn erbyn penodiad swyddogion anghyfiaith yng Nghymru, yn enwedig os mai ar Lywodraeth Dorïaidd y