byddai'r bai, ond Saesneg yw iaith Adroddiad y Coleg bob blwyddyn. Cymraeg ydyw'r iaith a siaredir yn y Pwyllgorau, Cymraeg a bregethir gan y myfyrwyr; yn Gymraeg y gwneir yr apêl wrth gasglu; oddi wrth Gymry—y rhan fwyaf yn Gymry unieithog—y ceir y tanysgrifiadau; ond yn Saesneg, bid siwr, y mae'n rhaid rhoddi'r Adroddiad swyddogol! Nid oes neb yn Salem, ond Mr. Thomas y gweinidog a Morgans y Siop, yn darllen yr Adroddiad oherwydd hynny; ond edrychir ar enwau y tanysgrifwyr, neu clustfeinir pan eu darllenir allan ar goedd gan y myfyriwr pan ar ei daith gasglu, gyda diddordeb enfawr; oblegid yr hyn yw'r "Almanac de Gotha" i fawrion y Cyfandir, a "Debrett" i uchelwyr y Saeson, hynny yw'r Adroddiad i aelodau Salem.
Ond nid trwy gyfrannu arian yn unig y mae Mrs. Morris yn cynorthwyo yr achos yn Llanelwid. Nid oes nemor i gwrdd gweddi na seiet, na chwrdd parotoad wedi ei gynnal ers blynyddoedd hebddi hi. Ond pan fydd cwrdd cwarter neu gymanfa, neu gwrdd te'r Ysgol Sul neu gymanfa ganu ar waith y gwelir Mrs. Morris yn ei gogoniant. "Fe wnaiff Mrs. Morris a'r gwragedd caredig eraill, feallai, gymeryd at ddarparu lluniaeth," dyna gân Mr. Thomas y gweinidog yn wastad pan awgrymir yn y cwrdd eglwys y dylid rhoddi gwahoddiad i'r cylch enwadol i gynnal gŵyl yn Llanelwid. Ac ni phallodd Mrs. Morris a'r "gwragedd caredig eraill" erioed. Yn wir, un o brif olygfeydd Llanelwid yw Mrs. Morris—a chap lasys ar ei phen a siôl fach ar ei hysgwyddau—yn gwneud te pan fo uchel ŵyl yn Salem. Ati hi yr aiff pob pregethwr mawr a phob diacon blaenllaw i gael te, ac ni ddengys dim safle gŵr yn yr enwad yn well na ph'un ai ar ford Mrs. Morris neu ford "un o'r gwragedd caredig eraill" y rhoddir ef i yfed ei de.
Mae gan bawb yn Llanelwid ffydd fawr ym marn Mrs. Morris ar bob pwnc cymdeithasol, canys oni chafodd ei chodi ond am mewn ysgol ferched yn Abertawe? Gwir na fu hi yno ddwy flynedd, ac ni chafodd fawr o ysgol mewn un lle arall. Ond ni fu un wraig arall o Lanelwid mewn boarding school yn Abertawe. Cafodd Mari Jones, mae'n wir, ddau gwarter gaeaf yn ysgol Llangoediog; ond gŵyr pawb na ellir cymharu ysgol Llangoediog ag ysgol Abertawe. Erbyn hyn, y mae merched pob ffarm yn y plwyf yn cael eu danfon "bant i'r