ysgol," ac y mae merched Henri Plas Newydd wedi dechrau chwarae'r piano a'r harmoniym! Mae rhai o'r bobl ieuanc yn barod i amau dysgeidiaeth Mrs. Morris; ond saif ffydd yr hen genhedlaeth yn ddiysgog. Gall Mrs. Morris ysgrifennu yn well nag un wraig yn y plwyf, ac y mae ei llythrennau mor bigfain fel na all ond ysgolorion a rhai sydd yn gyfarwydd â gwaith llaw ddeall ei hysgrifen. Y mae, hefyd, yn ôl tyb preswylwyr yr ardal, yn hynod hyddysg yn yr iaith fain. Y mae ganddi Feibl Saesneg yn ei sedd yn y tŷ cwrdd, a phan goda'r pregethwr ei destun, try Mrs. Morris ddail ei Beibl Saesneg, a darllena'r adnod yn yr iaith honno. Derbynia bob wythnos gylchgrawn Saesneg, yn ogystal â phapur lleol a gyhoeddir yn Saesneg. Ni chlywyd hi'n siarad Saesneg erioed hyd yn oed pan ei cyferchir yn Saesneg gan un o blant Salem ar ymweliad o Lundain; ond defnyddia eiriau Saesneg yn fynych wrth siarad Cymraeg. Nid yw yn gwneud hynny yn anghelfydd; nid yw yn llusgo gair Saesneg i'r ymadrodd megis gerfydd ei glustiau; ond dywed ef yn naturiol a di- gyffro, gan gymryd yn ganiataol fod pawb yn ei ddeall, fel y gwna ambell ysgrifennydd Saesneg fenthycia gair o'r Ffrangeg neu frawddeg o'r Lladin. Mewn gair, menyw genteel yw Mrs. Morris, neu, fel y dywed Leisa'r forwyn, "meniw steilus ambeidus yw mystres."
Edrych holl blant y plwyf arni gyda pharchedig ofn. Nid am ei bod yn gas nac yn sarrug wrth neb. Ni welodd un o aelodau Salem gwmwl ar ei hwyneb, ac ni chlywodd hyd yn oed gwasanaethddynion y Gelli hi'n gwneud dim mwy na cheintach mewn llais cwynfanus. Ond y mae rhyw urddasolrwydd disglair yn ei hymddangosiad na ellir ei ddisgrifio. Y mae yn sicr fod y pattens a wisga ar ddydd Sul gwlyb, yn ychwanegu at y parch a deimlir tuag ati. Nid oes pattens gan neb arall yn Salem. Y mae Mrs. Morris yn dal wrth natur, ond pan fydd y pattens ar ei thraed, y mae o'i hysgwyddau yn uwch na'i chymdeithion. Tyn y pattens ymaith yn y lobi; a cherdd hithau i mewn yn araf i'w sedd ym mhen pella'r capel mor dawel fel na chlywir ond trwst ei gŵn sidan du yn clecian i fyny'r ale. Ar ôl cyrraedd ei sêt, nid eistedd Mrs. Morris i lawr yn union. Ei harfer yw cymhwyso'r cwshin coch yn y sêt yn gyntaf—yr unig un yn Salem, oblegid y mae'r setau eraill i gyd mor noeth â chreigiau Tŷ Ddewi. Bu