Tomos Lewis yn teimlo'n anfodlon i'r cwshin am flynyddoedd. Ar un adeg cafodd Mr. Thomas waith mawr i atal yr hen frawd rhag siarad ynghylch y peth yn y seiet; ond, erbyn hyn mae hyd yn oed Tomos Lewis wedi cynefino â'r cwshin. Ar ôl eistedd i lawr, plyga Mrs. Morris ei phen am funud neu ddwy cyn tynnu'r allwedd fach o'i llogell i ddatgloi y bocs lle y ceidw ei llyfrau hymnau a'i Beibl. Yna gesyd ei thraed ar droedfainc fechan sydd ar lawr y sêt, egyr ei Beibl, neu ei llyfr hymnau, a disgwylia yn dawel am ddyfodiad y pregethwr.
Ni chlywodd neb mo Mrs. Morris yn canu yn y cwrdd erioed, er ei bod yn hoff o glywed canu. Hi yw'r gyntaf bob amser ar ei thraed ar ôl i'r pregethwr roddi'r gair maes i ganu. Cwyd cyn i'r pregethwr orffen darllen; tra na fyddai'r lleill yn codi cyn i'r blaenor canu ddechrau'r don. Edrychai'r hen bobl ar hyn fel peth gweddaidd yn Mrs. Morris, ond ni wnânt geisio ei hefelychu. Mae rhai o'r merched ieuanc yn y blynyddoedd diwethaf wedi dechrau dilyn ei hesiampl, oherwydd, meddir, eu bod o'r farn ei fod yn fwy steilus na chodi pan fo'r llinell gyntaf wedi ei hanner canu. Ond er bod Mrs. Morris yn gynnar ar ei thraed, nid yw byth yn ymuno yn y gân. Mae pawb yn cymryd hyn fel peth eithaf naturiol, ac, yn wir, y mae'n dra thebyg nad oes neb ond Mr. Thomas wedi sylwi ar hynny. Beth ydyw'r rheswm am ei hymddygiad ni wn, oblegid, ar adegau, gall Mrs. Morris ganu yn gerddgar a soniarus. Yr esboniad a rydd Gwladus yw i Mrs. Morris gael ei dysgu yn yr ysgol yn Abertawe, na ddylai pobl barchus ganu yn y cysegr,—ac, wrth gwrs, nid yw'r bobl barchus yn canu yn y capelau a'r eglwysi Saesneg. Mae'n well ganddynt dalu côr i ganu yn eu lle!
Ni fydd Mrs. Morris byth yn brysio allan o'r capel yn union ar derfyn y gwasanaeth. Eistedd yn ei sedd hyd nes y daw Mr. Thomas ac eraill ati i siglo llaw â hi. Hi yw'r ddiwethaf, bron, i ymadael o'r capel. Pan gyrhaedda'r lobi, caiff y pattens yn union yn y man y gadawodd hwynt ar ddechrau'r oedfa, oblegid y mae pawb ar eu heithaf yn cilio draw oddi wrth y pattens, fel pe byddent yn rhywbeth gwaharddedig.
Ond er cymaint oedd y parch a enillodd Mrs. Morris, ac er esmwythed ei byd, ni ellid ei galw yn hapus. Bywyd unig iawn oedd ei bywyd; nid oedd ganddi gyfeillion mynwesol; ac nid oedd ganddi berthynas yn y plwyf. Bob a Gwladus