oedd ei pherthynasau agosaf, ac nid oeddynt hwy yn ymweled â hi yn fynych. Er mor dawel oedd Mrs. Morris, yn eigion ei chalon yr oedd yn dyheu am rywun i'w charu a chydymdeimlo â hi, rhywun y gallai ymddiried ei chyfrinach iddo. Yr oedd Mrs. Morris, drwy ei hoes, wedi amcanu cael ei pharchu gan y gymdogaeth; yr oedd wedi cadw gormod iddi ei hun i ennill serch a hoffter ei chyd-blwyfolion. Ac fel yr heneiddiai teimlai yn fwyfwy y gwacter yn ei chalon, a hiraethai am ddyfodiad Gwladus i'r Gelli gyda dwyster ac angerddoldeb na fyddai neb yn disgwyl ynddi hi.
Mor helbulus a thrafferthus yw bywyd dyn! Mor siomedig, yn fynych, y teimla'r mwyaf llwyddiannus ar ei ddiwedd! Pan fo cysgodion yr hwyr wedi disgyn, ac y cymer gŵr hamdden i fyfyrio ar ystyr bywyd, a'i gymharu â'r gau-amcanion a fu efe yn ymestyn ar eu hôl yn nyddiau ei nerth a'i gryfder, mor aml yr esgyn gwaedd y Pregethwr i'r nefoedd fry, "Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl!" Wele un wedi ennill cyfoeth, arall wedi ennill anrhydedd, arall eto wedi ennill dysg,—ond O! mor siomedig y maent pan welant, yn rhy ddiweddar, iddynt ddibrisio yr hyn sydd werthfawrocach na golud, na chlod, na diwylliant—sef y Cariad ni ddyffydd yn angau, ond a erys yn ieuanc yn oes oesoedd.
PENNOD VI.
DISGWYL GWLADUS.
ŷ ffarm hen-ffasiwn, a "chartref" wedi ei gerfio ar bob carreg ynddo, oedd y Gelli. Yr oedd yn ddiarhebol drwy'r ardal am ei lendid. Yr oedd fflagiau gleision y gegin, a llawr morter y neuadd, bob amser mor lân "fel y gallech i llïo nhw," meddai Sali Nat. Ond yr oedd yn amlwg ddigon nos Sadwrn cyn Nadolig fod Mrs. Morris yn disgwyl rhywun dieithr. Yr oedd llinellau gwynion cywrain wedi eu torri â sialc ar garreg lwyd yr aelwyd a'r cerrig gleision gerllaw'r drws. Yr oedd y celfi, y cwpwrdd cornel, a'r seld, a'r wedder-glas, a'r warming-pan bres yn disgleirio. Yr oedd y crân mawr uwchben y tân wedi ei flac-ledo fel y gallech weld eich