llun ynddo. Yr oedd y canwyllarnau melynion ar y fantell fawr yn edrych fel pe baent wedi cael eu gwneud o aur. Yr oedd Leisa wedi gwyngalchu dan y grat, a dodi cot newydd o gôl-tar ar y ffwrn. Yr oedd tân mawr yn y grat, a'i ben yn wyn fel yr eira gan belau wedi eu gwyngalchu, a gwasgai fflam las allan, 'nawr ac yn y man, rhwng rhyw gilfach yn y pelau, ac ar ôl dawnsio am eiliad ar ben y copa gwyn neidiai o'r golwg i dywyllwch y simnai! Ar un pentan haearn gloyw chwyrnai tegil yn ei gwsg, ac ar y llall yr oedd y tebot yn twymo ei ochr wrth y tân.
Yn y pen uchaf o'r neuadd yr oedd drws yn agored i'r parlwr gorau. Yno yr oedd tân siriol wedi ei gynnau, a dwy gadair freichiau esmwyth wedi eu tynnu un bob ochr iddo. Nid oedd dim hen na chyffredin yn cael lle yn yr ystafell hon—prif addurn a gogoniant y Gelli. Yr oedd grat bach isel wedi cymryd lle yr hen rat mawr, lle gellid cynnau tân coed pe bai galw am hynny. Yr oedd y pocer, a'r tongs, a'r shofel o waith cywrain tad Nat y gof wedi eu halltudio i'r neuadd, a'u lle wedi eu cymryd gan haearn mwy rhodresgar a brynwyd gan Mrs. Morris ryw ddydd marchnad yn Abertawe. Yr oedd carped trwchus ar y llawr, ac yn lle yr hen ford dderi gwelid bord gron fahogani yng nghanol yr ystafell. Ar hon yr oedd lliain gwyrdd, ac ar hwnnw yr oedd mydylau bach o lyfrau Saesneg a Chymraeg, wedi eu trefnu wrth rif a mesur, fel na fyddai un mwdwl yn uwch na'r llall, na mwy na llai na throedfedd yn gwahanu un oddi wrth y llall. Ymhlith y llyfrau yr oedd Llyfr yr Hen Ficer, Taith y Pererin, Watts On the Mind, Baxter's Saints' Rest, a gweithiau defosiynol eraill. Ar ganol y ford gorweddai mat blewog, ac ar hwnnw album a llyfr hymnau. Yn erbyn y mur gogyfer â'r ffenestr yr oedd soffa fawr wedi ei gosod; ac wrth ei thraed sheffinier, hanner o wydr a hanner o fahogani. Ond yr oedd un hen ddodrefnyn heb ei symud. Mewn cornel tywyll, wedi hanner ei guddio, safai'r cwpwrdd tridarn, a fu gynt yn destun ymffrost a llawenydd i genedlaethau o hynafiaid Mrs. Morris. Ni ellid meddwl am ddim mwy anghydweddol â'r gwychder a ffynnai ymhob rhan arall o'r ystafell—fel pe bai un o'r hen Ddiwygwyr yn ei got lwyd, yn dyfod yn ôl i dreio codi hwyl ymysg crefyddwyr parchus yr oes hon!