pethau at eu gilydd, a dyma Leisa yn ceisio cynnau'r gannwyll drwy wthio ei phen i'r tân.
"Leisa! los,' ebe Mrs. Morris yn gyffrous, "beth ych chi'n neyd? Dyna fel mae'n nghanhwylle i'n cael eu difa drwy ga'l eu saco i'r tân fel yna! Cymrwch dipyn o bapur, ferch, a chynnwch hi â hwnnw."
Ar ôl cynnau y ddwy gannwyll a'u gosod nhw ar y ford, gofynnai Leisa:
"Pwy lestri fynnwch chi, mystres?"
Yr oedd gan Mrs. Morris ddau set o "lestri gorau," heblaw ei "llestri at iws." Y llestri gorau i gyd oedd y rhai a gafodd fel rhan o'i "stafell" pan briododd, a'r llestri ail-orau oedd y rhai a gafodd ar ôl ei mam-gu.
"O, mae'n well i chi ddwad â'r llestri ail-orau," meddai, ar ôl ychydig o betruster.
Dim ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn y bodlonai Mrs. Morris i wneud defnydd o'r llestri gorau, rhag ofn iddynt gael eu torri wrth eu golchi neu eu dodi i gadw. Buasai yn ddigon hawdd cael llestri o'r un batrwn, pe bai anffawd yn digwydd; ond ni wnâi hyn i Mrs. Morris feddwl yn llai amdanynt. Ond am y llestri "ail-orau," ni ellid cael eu bath yn awr am arian yn y byd. Mae pob dysgl a saser a chwpan wedi eu marcio â stamp a delw hen waith llestri Abertawe, y forget-me-not. Ond ni welai Mrs. Morris ddim prydferthwch na gwerth yn y llestri dain, a chredai eu bod yn llai eu gwerth oherwydd eu bod yn henach na llestri ei stafell ei hun.
Erbyn bod y te yn barod, fe glywid sŵn cerbyd ar y buarth, a llais Twm yn galw ar y poni.
"Wo na ti, 'r gaseg fach! Pam na elli di aros yn esmwyth?" "Dyna Miss Bowen wedi dwad, mystres," ebe Leisa a'i gwedd yn llonni wrth redeg allan i'r gegin.
Cyn pen ychydig eiliadau rhedodd Gwladus i'r neuadd, a thaflodd ei breichiau am wddf Mrs. Morris, a derbyniodd groeso cynnes gan yr hen wraig. Arhosai Leisa wrth y ford rhwng chwerthin a llefain, yn disgwyl yr amser i arwain Gwladus i'w hystafell ei hun ar y llofft.
"Cerwch i dynnu'ch pethe bant, Gwladus," meddai Mrs. Morris, ym mhen tipyn, "mae'ch rhwm chi'n barod yn y lofft. Ond peidiwch bod yn hir cyn dwad i lawr, wa'th