Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"i wel'd e wedi gwella fel hyn heb gael llwyed o foddion! 'Ro'dd 'nhad yn arfer gweyd, 'slawer dydd, nag o'dd dim dishgwl gwella heb ellwng gwa'd neu lyncu moddion."

"Wel," atebai Arthur, "mae gwaith doctor yn newid, fel gwaith ffarmwr, neu of, fel y mae'r byd yn mynd yn i fla'n." "Falle hynny'n wir!" ebe Sali, "er nag w i ddim yn credu y gwelir byth eto shwd ddoctor â'r hen Ddoctor Prydderch! Dir gaton pawb, 'rwy'n cofio am y 'nhad, fod gyda fe yn wastod botel o foddion gas e gan Ddoctor Prydderch, a ta pwy glefyd fyse arno fe, 'do'dd e byth yn newid y moddion. 'Ro'dd sôn, chi wyddoch, am yr hen Ddoctor Prydderch drwy Gymru a Lloegr i gyd, wa'th 'ro'dd e'n disgyn o ach hen Feddygon Myddfai, medde nhw, a—mi gynta 'ch bod chi'n gwbod yr hanes yn well na fi—fe fuodd e unwaith yn tendo'r Brenin pan o'dd e yn Llynden."

"Na, chlywes i ddim am hynny," atebai Arthur yn wylaidd. "O, mae e'n eitha gwir!" meddai Sali, "wa'th mi glywodd 'y 'nhad yr hen ddoctor i hunan yn gweyd yr hanes. Wel, chi'n gweld, pan o'dd 'y nhad yn ddyn ifanc, cyn iddo fe briodi, 'ro'dd e'n waginer gyda'ch tad-cu yn y Dole—yno cas e afel ar mam, wyddoch. Fe dda'th hi yno o Lancrwys fel lleithreg, yr ail flwyddyn oedd 'y nhad yn gwasaneithu yno—ac yn y flwyddyn hynny fe ddaeth rhyw dwymyn drwy'r wlad, ro'en nhw'n galw'r ddyrton arni."

"Y ddyrton?" gofynnai Arthur. "Rwy'n cofio clywed sôn am yr enw."

"A dyna pryd," aeth Sali ymlaen i ddweud, "y cas mam-gu y twtsh cynta o'r gwinegon. 'Roen nhw'n gweyd i bod hi cyn hynny mor shonc na fyse'r gwlithyn ddim yn dyferu dan i thro'd hi, ag 'ro'dd shwd liw ar i boche hi fel taw "cochen fach Llanelwid" 'roen nhw'n i galw hi pan o'dd hi'n ferch ifanc. Ond fuodd hi byth yr un peth, druan, ar ôl y ddyrton!"

"Arhosodd Sali am foment i gael ei hanadl. Ni feiddiai Arthur edrych ar Nat, yr hwn oedd yn plygu ei ben i gael tanio ei bib.

"Wel, chi'n gweld Doctor Jones," meddai Sali ar ôl cael ei gwynt ati, "y nhad gas i gymryd gynta gyda'r dwymyn. 'Ro'dd e a'r gwas mwya' ym mhoilid yn un o'r ceie dan y tŷ, ac yn ddisymwth dyna 'nhad yn dechre crynu nes o'dd e'n ffeilu cydio yng nghorn yr arad! A mi gas shwt ofan nes y gweiddodd