e, "Wb, wb!" ar y gwas mwya. "Be' sy arnat ti'r ffŵl "" mynte hwnnw. A chyda bod y gair ma's o'i ben e dyma ynte yn dechre crynu fel y ddeilen; a dyna lle buon nhw ill dau yn shiglo gyda'i gilydd man hynny am hanner awr neu ragor, nes i'ch tad-cu ga'l gafel arni nhw amser gellwng.
"Sali fach," torrai Nat i mewn, ""dyw doctoried 'nawr ddim yn stydio hanes y ddyrton."
"Falle nag ŷn nhw," atebai Sali yn swrth, "wa'th mae e'n syndod na fu hi byth yn y wlad wedyn! Ond fydde nhw ddim gwa'th o gael gwbod rhywbeth am y dwymyn, wa'th wyddon ni ddim pwy flwyddyn bydd i thro hi yma yto! A fel o'wn i'n gweyd wrthoch chi, fe gariwyd 'y nhad a'r gwas mwya' gatre i'r Dole. Fe gas y gwas mwya fynd i'r tŷ i orwedd, ond 'do'dd dim lle i 'nhad yn y tŷ, ac fel'ny gorffod iddo fe orwedd yn y bedrwm uwchben y boudy. Ag 'rodd e'n arfer gweyd y byse hi wedi mynd i'r pen arno fe man 'ny on 'se i mam i dendo fel y gnath hi."
"Mae ca'l nyrs dda yn hanner y fatl," meddai Arthur, "fel y gŵyr Nat yma erbyn hyn."
"O, na!" brathai Sali, "dyw Nat ddim wedi dysgu hynny eto, a'i dyngu, neu mi fyse gydag e lawer mwy o olwg arna i nag sy'! Ond dyna beth own i'n mynd i weyd wrthoch chi, mi gas 'y nhad yr amser hynny boteled fowr o foddion gyda Dr. Prydderch. Mae'r botel gyda fi yma byth—mae gyment â mhen i—a mae Nat yn arfer gweud y byse fe'n fo'lon ar lond honno o gwrw fel lwans ar ddydd cylcho whils! Mae Nat, chi'n gweld, wedi mynd rhagddo—dim ond meddwl am saco yn i fola mae e byth a hefyd! A chas 'y nhad byth boteled arall o foddion tra buodd e byw! Os byse rhywbeth y mater arno fe—ta'i ben yn dost ar ôl acshwn neu'r ddannodd arno fe, neu dwtsh o'r gwinegon—'ro'dd e'n wastod yn cymeryd llond llwy bowtir o'r hen botel, ag 'ro'dd e'n gwella fel y cyw!"
"Wel, wel," meddai Arthur, "dalle fe byth bod yn dost yn fynych, neu mi fyse wedi dybennu'r botel flynydde cyn iddo farw."
"O, chi'n gweld," ebe Sali, "ro'dd 'y nhad yn credu fod yr hen Ddoctor Prydderch wedi dyall i gyfansoddiad e drwyddo draw. Ag 'ro'dd e wedyn, pan fyse'r moddion wedi mynd yn isel yn y botel, yn ei llanw hi â dŵr, lan i'r top; ag 'ro'dd e'n