Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim yn credu y bydda' i ar ffordd neb yn hir. 'Rwy'n diodde mwy nag yw neb yn feddwl o wrth ddolur y galon er na cha i ddim cydymdeimlad—a mae'r gloch farw'n 'y nghlust i'r fyned yma! A phan af fi, falle gwelith Nat golled ar 'nôl i, er nad w i ddim yn meddwl y claddith e fi fel y dylse fe!"

Ac allan â Sali i'r pen uchaf, tra edrychai Nat ar ei hôl gyda gwên ar ei wyneb.

"Arthur," meddai, ym mhen ychydig amser, gan siarad yn bwyllog a thynnu mwgyn rhwng pob brawddeg, "rwy' wedi bod yn meddwl mai peth ymbed yw dewis gwraig; ac wn i ddim pam mae pobol mor ddwl â gneyd peth mor bwysig pan mae nhw yn rhy ifanc i wybod dim yn i gylch e—(Pwff, Pwff, Pwff). 'Rych chi wedi bod yn garedig iawn yn 'y nhendo i fel hyn, a mi gynta na alla i byth eich talu chi 'nôl, fel y dylwn i (Pwff). Ond mi alla i roi cyngor i chi'n gystled â rhyw un arall—(Pwff, Pwff,)—wa'th 'dyw cyngor ddim yn costi dim i neb, ta faint mae'r profiad wedi gosti cyn gellir ei roi e—(Pwff). Fe fyddwch chi'n dryched ma's am wraig un o'r dwarnode nesa' 'ma-mae doctor yn ots i bregethwr. Mae mwy o ddylanwad gan bregethwyr cyn priodi—(Pwff)—ond 'do's gyda pobol ddim ffydd mewn doctor dibriod—(Pwff, Pwff). 'Wn i ddim pam, os nad ŷn nhw'n meddwl na all e ddim cydymdeimlo â phobol sy'n diodde—(Pwff, Pwff). 'Do's dim iws i chi ga'l gwraig salw, neu mi fydd yn gas gyda chi i gwel'd hi amboitu'r tŷ—(Pwff); ond peidwch mynnid un rhy lân, neu fydd hi'n meddwl am ddim ond gwisgo a thaclu a mynd ar ger'ed, er mwyn dangos i hunan—(Pwff, Pwff). Mae'n dda ca'l meniw a thipyn o waddol gyda hi, neu falle 'dyfarwch chi pan fydd y teulu'n pryfo a helbulon yn dwad ar eich traws chi—(Pwff); ond peidwch mynnid gwraig rhy abal, neu falle y bydd hi'n dannod i harian o hyd—(Pwff, Pwff, puff). Ac er mwyn pob peth, mynnwch feniw syber, wa'th 'do's dim mor gas ag aelwyd frwnt a thŷ pendramwnwg—(Pwff); ond 'do's dim iws i cha'l hi yn rhy lanweth, neu mi fydd yn meddwl mwy am gadw'r tŷ yn lân na gneyd y gŵr yn gysurus—(Pwff, Pwff). 'Neiff e ddim drwg iddi fod yn feniw grefyddol, wa'th mae tipyn o elfen crefydda yn taro gwraig, ac yn help i chadw hi'n bles—(Pwff); ond gochelwch beidio ca'l un dduwiolfrydig, os gwedodd yr Hen Binacl, neu fe fydd