Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am hadel i chi ga'l un pleser yn y byd hyn er mwyn i chi fod yn hapus yn y byd arall—(Pwff, Pwff, Pwff). Mynnwch wraig a thipyn o stamp ynddi, wa'th 'do's dim yn wa'th i ddyn na chael i ffordd ym mhob peth—(Pwff); ond ymswynwch rhag ca'l gwraig fydd yn moyn ca'l popeth fel y myn hi, ag yn ceintach yn erbyn pawb

"Beth wyt ti, Nat, yn falban 'nawr wrth Doctor Jones?" gofynnai Sali, wrth ddyfod i fewn dros drothwy'r drws. "Rhyw lol, yto, mi wn!"

"Rhoi cyngor iddo shwd i ddewis gwraig rown i, Sali fach," meddai Nat.

"Llawer wyt ti'n wbod nag yn hido am rinwedde gwraig," atebai Sali, "a bachgen pert wyt ti i roi cyngor i neb.

"Wel, 'y nghalon i," meddai Nat yn ddifrifol, gan sugno mwg yn araf o'i bib, "wedes i ddim llawer wrth Doctor Jones, ac falle na chofith e ddim o'r tipyn glywodd e gen i. Ond fe gofith y cyfan os cofith e fynnid gwraig yn gwmws fel ti!"

"Cer o 'na ti'r creadur!" ebe Sali, gan wenu'n foddhaus, "glywsoch chi ario'd y fath lol â'ch clyste, Doctor Jones? Ag ynte'n hen ddyn, wedi gadael i hanner cant, ag wedi bod yn briod os saith mlynedd ar hugain i G'langaea' nesa'—ond 'dych chi ddim yn mynd yto, os bosib, Doctor bach?"

"Odw'n wir," atebai Arthur yn frysiog, oblegid yr oedd wedi clywed eithaf digon o hanes teuluol Sali, "mae yn rhaid i fi fynd. Fe fydda'n 'madael yn fore bach fory, a mae gen i grugyn o waith i 'neyd cyn bydda' i'n barod."

"Wel, os o's yn rhaid i chi fynd," ebe Nat, "do's gen i ond diolch yn fawr am eich caredigrwydd.'

"Ie'n wir, Doctor Jones," meddai Sali, "wn i beth ar wyneb daear las nesen ni . . ."

"Peidiwch siarad," meddai Arthur, "'rown i'n falch i ga'l y cyfle i dalu pwyth i Nat yma. A gwd-bei i chi'ch dou, a halwch i weyd shwd mae Nat yn dwad yn mlân."

"Gnewn yn siwr!" ebe Sali. "Gwd-bei Doctor Jones, a lwc dda i chi yn Llynden."

"Dyna fachgen neis yw Arthur," meddai Sali wrth Nat ar ôl i'r drws gaead arno. "Mae e mor garedig â'i dad, ag mor stydi â'i fam."