PENNOD IX.
MR. ROWLANDS Y CIWRAT.
UN o'r rhai cyntaf i alw yn y Gelli wedi dyfodiad Gwladus oedd Mr. Rowlands y ciwrat. Ni fu ciwrat yn Llanelwid o'r blaen. Hyd yn hyn yr oedd Mr. Gwyn yr offeiriad wedi bodloni gwneud y gwaith i gyd ei hunan, a chan nad oedd dwsin o bobl yn yr eglwys "hirddydd haf, pan fyddai sychaf y ffyrdd a chlaearaf yr hin," ni ellid cyhuddo Mr. Gwyn o weithio yn rhy galed. Ni chynhelid un math o gyfarfod eglwysig ar noswaith waith, ac ar y Sul awyddfryd mawr Mr. Gwyn oedd myned trwy'r gwasanaeth mewn tri chwarter awr. O'r "annwyl gariadus frodyr" hyd yr "Amen" ddiwethaf, carlamai drwy'r gweddïau a'r Salmau, ac yn fynych byddai hanner y ffordd drwy'r weddi nesaf cyn y clywid "amen" gysglyd Harri'r crydd ar ddiwedd y weddi flaenorol. Ni chyfrifid Mr. Gwyn yn rhyw lawer o bregethwr, a honnai Nat mai'r un pregethau oedd ganddo oddi ar pan ddaeth gyntaf i Lanelwid, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Ar y Suliau darllenai bregeth bymtheg munud; ond ar adegau neilltuol, megis ffest clwb neu gwrdd diolchgarwch, pregethai am bum munud yn hwy. Er hyn i gyd, yr oedd gan y plwyfolion barch mawr i Mr. Gwyn. Hanai o deulu da—yr oedd ei fam yn perthyn i Mrs. Bassett y Plas. Derbyniodd ei addysg yn Rhydychen. Ar ôl ei briodas yr oedd yn ddyn cyfoethog, ac yr oedd ei haelioni wedi llonni bywyd llawer hen ŵr tlawd a llawer hen wraig fethiannus. Eisteddai yn fynych ar fainc yr ynadon yn Llangoediog, a chodai ei lais i fyny bob amser o blaid lleddfu llymder y gyfraith â thrugaredd. Dan yr hen oruchwyliaeth, efe oedd Cadeirydd Festri'r plwyf, ac yn y swydd honno enillodd edmygedd pawb. Ei air oedd ei ddeddf; ni wnaeth ddrwg i neb, ac ni chreodd chwerwder ysbryd a digofaint yn ei blwyf. O lwyrfryd calon gweddïai bob bore Sul, "Oddi wrth genfigen, digasedd, bwriad drwg, a phob anghariadoldeb, gwared ni, Arglwydd daionus." Mewn gair, yr hyn a ddywedai Macaulay y dylai pob offeiriad fod, hynny oedd Mr. Gwyn yn Llanelwid—yr oedd yn fonheddwr yn y plwyf.