Ond erbyn hyn yr oedd Mr. Gwyn wedi heneiddio, a chan na ddeallai ei wraig a'i ferch ond ychydig o Gymraeg, aeth gwaith yr eglwys yn fwy o faich iddo o hyd, ac o'r diwedd penderfynodd gyflogi ciwrat i'w gynorthwyo. Cafodd fwy o anhawster i gael ciwrat, nag a feddyliodd. Plwyf mawr gwledig yw Llanelwid, ymhell o gyrraedd tref a rheilffordd, heb ond dwsin o Eglwyswyr yn trigo o'i fewn. Da fuasai gan Oronwy neu'r Prydydd Hir gael y fath giwradiaeth, lle cawsent hamdden i farddoni a llenydda heb eu blino gan waith plwyfol na dyletswyddau eglwysig. Ond pobl o dymer wahanol yw'r ciwradiaid ieuainc yng Nghymru heddiw. Nid hamdden ond gwaith a geisiant, a chan fod llawer ohonynt wedi eu codi yn Anghydffurfwyr neu dan ddylanwad Anghydffurfiaeth, gosodant safon uchel o'u blaen o weithgarwch yn y weinidogaeth. Ar ôl cryn drafferth, llwyddodd Mr. Gwyn i gael gŵr ieuanc wyth ar hugain oed, yr hwn oedd newydd orffen ei yrfa fel "myfyriwr dwy-flynedd" (biennial student) yn Llanbedr i gymryd y giwradiaeth. Enw'r bachgen ieuanc oedd William Rowlands.
Brodor o Sir Aberteifi (nid oes eisiau dweud) oedd Mr. Rowlands. Ffarmwr oedd ei dad, ac yr oedd ef a'i deulu yn aelodau ffyddlon gyda'r Methodistiaid, mewn plwyf nid nepell o Lanbedr Pont Steffan. William oedd yr ieuengaf o dri o feibion. Bu yn gweithio ar y ffarm gartref hyd nes iddo gyrraedd oedran gŵr; ond daeth y tad i weled yn raddol na allesid cadw'r tri mab gartref. Gan nad oedd argoel i'r ddau hynaf briodi, penderfynwyd fod yn rhaid i William hedfan allan o'r nyth. Ar ôl llawer o ystyriaeth, cytunodd William i fyned yn offeiriad. Nid oedd ei dad yn ei dwyllo ei hun fod yn ei fab ieuengaf gymwysterau arbennig at yr offeiriadaeth. Ond beth arall ellid wneud o'r bachgen? Yr oedd eisiau gormod o arian a dysg i wneud meddyg neu gyfreithiwr ohono; nid oedd ganddo ddawn pregethwr; ac yr oedd yn rhy hen i'w ddanfon fel prentis i siop. Nid oedd dim yn aros gan hynny, ond gwneud offeiriad o'r bachgen.
Danfonwyd ef am dymor i ysgol ramadegol, ac oddi yno pasiodd ym mhen blwyddyn i Goleg Llanbedr. Ond bu'n anos i William, druan, ddyfod allan o'r Coleg na myned yno. Ar ôl cryn drafferth, a siomedigaethau lawer, o'r diwedd