Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

coronwyd ei ymdrechion â llwyddiant mewn pryd i dderbyn cynnig Mr. Gwyn i weinidogaethu fel ciwrad yn Llanelwid. Achosodd ei ddyfodiad lawer iawn o siarad a holi yn ei gylch ymysg pobl y plwyf. At Nat y rhedai pawb dan y fath amgylchiad, oblegid yr oedd Nat yn berchen ar allu hynod i chwilio allan hanes pobl.

"Faint o amser fuodd y ciwrat newydd yn y Colej, wedsoch chi?" meddai un diwrnod yn yr efail. "O, 'do's dim gwybodeth faint! 'Ro'dd y bobol o'dd yn 'i gofio fe'n myn'd yno i gyd wedi marw cyn iddo fe ddwad ma's—ond dou. Un o'dd ei ei dad, a wede fe ddim wrth gwrs, a'r llall yw'r cymydog drws nesa', a hwnnw wedws wrtha i amdano fe. Pan basodd e miwn i'r Colej, 'ro'dd 'i dad mor falch a phe byse fe wedi ca'l i neyd yn ganon neu'n esgob! A dyma fe'n gweyd wrth 'i fab:

'William,' mynte fe, rwy'n dodi wye dan yr ŵydd heddi, ac erbyn dy fod di'n barod i fynd yn 'ffeirad, mi fyddan wedi tyfu'n wydde braf. Mi gadwa i un ohonyn nhw, i ni cha'l hi i gino pan fyddi di wedi dybennu paso trwy'r colej.'

'O'r gore,' mynte ynte, 'fe gawn i bwyta hi cyn pen tair blynedd.'

"Fel o'dd y lwc yn bod, dim ond un o'r wye dda'th lawr, a chlacwydd o'dd hwnnw! Wel, fe dda'th y tair blynedd i ben—a dim sôn am William yn paso. A'r bedwaredd, a'r bumed, a'r wheched, nes i'r hen ŵr i dad i golli cownt, a'r hen glacwydd i fynd mor denau â sgadenyn, a 'stim dowt, medde'r cymydog, na fyse William wedi sgriwo gwddwg yr hen glacwydd ta fe wedi ca'l hanner siawns, gan gyment ma's natur o'dd e'n myn'd bob tro gwele fe'r hen griadur amboitu'r clos. O, deico di!' mynte'i dad wrtho fe o'r diwedd, ' os na basi di'n glou, fe fydd yr hen glacwydd yna wedi troi'n wythi i gyd.' Ond 'ta beth, yng nghyflawnder yr amser, mi basiodd William. Ac yna fe laddwyd y clacwydd, fe'i rhostwyd e',—ond 'do'dd dim posib saco fforc drwy i gro'n e! Wedyn fe'i berwyd ef yn y cawl am orie ar y tro, ond erbyn ei ddodi e ar y ford, 'ro'dd i gig e wedi troi yn garre sgidie! A chesbwd fowr o flas wrth dreio pilo esgyrn yr hen glacwydd." "Ie, lycoch chi!" meddai Dafi Jones, yr hwn oedd, fel arfer, yn un o'r gwrandawyr, "rwyt ti, Nat, yn gallu golchi erni pan ei di'n nghyd â hi!"