"Na chyffra i, mae'n wir bob gair," ebe Nat, gan chwerthin. Ond gwir neu gelwydd, aeth y stori am y clacwydd ledled y plwyf yn llawer cynt nag y gallai Mr. Rowlands ei dilyn.
Yn fuan ar ôl dyfodiad Mr. Rowlands cymerodd cyfnewidiadau dirfawr le yn ffurf y wasanaeth eglwysig. Dywedai'r clochydd, sef Harri'r Crydd, fod y ciwrat newydd yn hanner Pabydd, oblegid yr oedd yn troi i'r Dwyrain wrth adrodd y Gredo, moesymgrymai'n isel bob tro y dywedai enw'r Gwaredwr, rhoddai'r fendith o'r allor, a chanai'r "Amen" ar ddiwedd pob emyn. Ar ôl clywed cwynion Harri yn y Red Lion, penderfynodd Nat fynd i'r eglwys i gael gweld y defodau newydd drosto ei hun.
"Un rhyfedd yw'r ffeirad newydd 'na," meddai yn yr efail bore drannoeth, yn ei ddull mwyaf gwawdlyd. "Dall e ddim bod fyned yn llonydd yn yr eglwys, ond dyna lle mae e, chi'n gweld, yn symud yn ôl ac yn mla'n ac yn codi ac yn ishte, ac yn penlinio ac yn bowo fel meilart ar domen! Mae'n bownd fod sbrings go dda yn ei wddwg e, neu, na chyffra i, mi dorre gan mor fain a hir yw e! Jaist, mae'n werth ca'l gwddwg fel 'na! Un ymbeidus o dda yw ei lyncu pwdin!"
"Lycoch di, Nat," meddai Dafi Jones oddi ar stôl y gwrando, "rwyt ti gystal â chrwth a thelyn mewn tŷ, ag wyt," gan dorri allan i chwerthin drachefn.
Profedigaeth fwyaf Mr. Rowlands oedd darllen y llithiau fore Sul yn Saesneg. Pan fyddai Mr. Gwyn yn bresennol, cymerai efe arno ei hun y gwaith o wneud hyn, ond ni fyddai Mr. Gwyn yn croesi dros drothwy'r drws ar ddiwrnod gwlyb neu oer. Nid oedd Mr. Rowlands, chware teg iddo, wedi cael fawr o gyfle i ddysgu'r iaith fain yn ddilediaith. Er iddo fod am saith mlynedd yn paratoi ar gyfer yr offeiriadaeth, yr oedd wedi gwario hanner yr amser neu ragor gartref. Buasai yn dda ganddo pe gallai osgoi'r ddyletswydd; ond nid oedd Mrs. a Miss Gwyn yn deall y wasanaeth Gymraeg, ac anghenraid a osodwyd arno i gyfrannu moddion gras iddynt hwythau. Bu Mr. Gwyn, hefyd, yn garedig iawn wrtho pan welodd ei gyfyngder. Gwnaeth iddo ddyfod i'r Persondy, ac yno y bu yn ei gyfarwyddo pa fodd i ddarllen y llithiau yn Saesneg. Ond er holl ofal Mr. Gwyn, ni ellid trwsio ar unwaith acen Gymraeg y ciwrat, ac adroddai Miss Gwyn (mae'n rhaid