"Wel, a ewch chi i ofyn iddo drosta i?" gofynnai'r ciwrat. "Yr arswyd annwyl, nag af fi!" atebai Leisa, "mi fues i ddwywa'th gydag e'r wythnos ddywetha, a mi ddylech chi weyd wrtho fe shwd ych chi am iddo neyd y farddoniaeth, a beth yw enw'r ferch ifanc."
"Wel mi af fi â hi ato fe 'te," ebe'r ciwrat, gydag ochenaid ysgafn arall.
Nid yw yn werth aros i adrodd y modd y prynodd Leisa'r ffolant, ar ôl cael y te a'r siwgr, a ffraethebion y bechgynnos oedd yn y siop pan oedd yn ei phrynu. Cyn pen hir amser, yr oedd Leisa wedi dianc o'r siop, a'r ffolant gyda hi, a chyda balchder nid bychan trosglwyddwyd hi i Mr. Rowlands.
"Diolch yn fowr i chi, Elizabeth," meddai'r ciwrat, gan wasgu rhywbeth i'w childwrn.
"O, 'do's raid i chi, syr," atebai Leisa. "Mynnwch chi farddoniaeth bert gyda Robin, a mi dynga i na chesech chi ddim gwell swyn serch gyda'r hen Harris Cwrt-y-cadno."
Cyfeiriodd y ciwrat ei gamre yn nesaf tua phen y pentref, lle yr oedd Robert Williams y teilwr yn byw.
Robin y Teilwr—neu Robin y Llwyn fel y'i gelwid yn yr Eisteddfodau—oedd prydydd y plwyf, ac yr oedd ei ofn ar bawb bron ond Nat. Y gosb drymaf a allai drwgweithredwyr dderbyn oedd cael rhigwm oddi wrth Robin. Dywedid fod ofn Robin yn dylanwadu mwy ar Gruffudd y Coed—y cybydd mwyaf yn y plwyf—i gyfrannu fel y dylai at yr achos yn Salem na phregethau llymaf y gweinidog; a gallai gwraig Dai'r Gelynnen fygwth y polîs ar y gŵr heb gael yr un effaith, ond yr oedd hyd yn oed Dai yn ofni awen y teiliwr! Ar ôl pob cwrdd politicaidd, a phreimin, ac Eisteddfod, a chyfreithia, yr oedd y plwyfolion yn disgwyl cân gan Robin, a byddai sôn amdani am wythnosau ar ôl hynny. Ymddangosodd rhai o'r caneuon yn y Golofn Gymreig yn un o'r papurau lleol, er mawr falchder a rhyfeddod i'r plwyfolion, a byth oddi ar hynny teimlai Robin ei fod yn Rhywun. Yn y siop waith—neu "Weithdy Ceridwen," fel y galwai Robin hi—hongiai rhyw ddeugain o godau Eisteddfodol fel sgalps yr Indiaid Cochion mewn wig-wam, yn arwyddion gweledig o wrhydri awenyddol y prydydd. Nid oedd nemor Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Sir lle yr oedd Robin yn anhysbys. Nid oedd, mae'n wir, wedi ennill