Cadair, na Choron, na Thlws; ond yr oedd wedi ennill y gwobrau canlynol, ymysg eraill:— Gwobr o dri gini am Farwnad i Frederick Basset, Ysw., Y.H., o'r Plas Mawr, yn Eisteddfod Llanelwid (rhoddedig gan y weddw).
Gwobr o ddau gini yn Eisteddfod y Cwrt am Bryddest (heb fod dan 400 na thros 600 o linellau o hyd) ar "Caleb."
Gwobr o gini yn Eisteddfod Llangoediog am y chwech pennill gorau i'r Garreg Fawr, gerllaw'r pentref hwnnw.
Gwobr o goron yn Eisteddfod Llanelwid am englyn i'r Dderwen Gam, ynghanol y pentref; ynghyd ag eraill, "too numerous to mention," ys dywed papurau acshwn. Er cymaint o wobrau a gipiwyd gan Robin, y mae eto heb gyrraedd ei hanner cant, ac felly nid yw ond megis ar drothwy ei yrfa farddonol. Yn wir, tybia llawer y bydd Robin wedi ennill Can Punt drwy farddoni cyn diwedd ei ddydd. Mor falch fyddai llawer i fardd Saesneg, sydd a mwy o sôn amdano, pe gallai wneud yr un peth!
Pan yw Robin yn paratoi ar gyfer rhyw gystadleuaeth, daw'r holl blwyf i wybod am hynny, oblegid, ar achlysur o'r fath, dengys y prydydd yn ei ymarweddiad ei fod mewn dwfn gyngor â'r Awen. Cerdd ar yr heol a'i lygaid tua'r llawr; nid edwyn ei gymydog agosaf ar y ffordd; clywir ef yn mwmian rhywbeth wrtho ei hunan, a gwelir ef 'nawr ac eilwaith yn rhifo'r sillau ar ben ei fysedd. A phan ganfyddir ei ystumiau dywed un o'r cymydogion wrth y llall:
"Mae Robin bach wrthi eto! Gewch chi weld y daw'r gadair i Lanelwid cyn y dybennith y teiliwr â barddoni!"
Un arall o hynodion Robin yw ei ysfa i adrodd ei bennill neu ei englyn diwethaf wrth y cyntaf a ddaw ar ei draws, a gofyn ei farn amdano. Nid yw Robin yn malio pwy fydd "oen y poethoffrwm." Jên ei wraig—dynes dawel, amyneddgar—sydd fynychaf yn cael ei haberthu. Erbyn hyn y mae hi wedi cynefino ag ef, ac y mae Robin yn dweud ei bod wedi yfed digon o gawl o bair Ceridwen i nofio llong. Un amser yr oedd tuedd yn Jên i wrthryfela yn erbyn Robin a'i farddoniaeth. Ychydig ar ôl iddi briodi, deuai Robin a'i rigwm newyddaf,—weithiau pan fyddai hi ar ganol ffwrno bara neu grasu teisen,—a byddai hithau yn gwrthod gwrando ac yn gofyn iddo gadw