Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrwyth ei awen hyd oni ddelai amser cyfaddas. Yna âi Robin i'r Red Lion, lle caffai yn wastad dderbyniad croesawus.

"Mae'n well gen i losgi ffwrned o fara," medd Jên, yr hon sydd yn fenyw ymarferol a llygadgraff, "na hala Robin i'r Red Lion; wa'th mi wn beth fydd y golled gyda'r bara, ond dyn a ŵyr faint gostith dwarnod yn y tafarn!"

Y mae Robin bob amser yn gofyn, ar ôl darllen ei bennill neu ei englyn:

"Nawr, 'y merch i, beth wyt ti'n feddwl am y pennill hyn 'nawr? Wyt ti'n meddwl ei fod e'n ddigon da?"

Un tro cyn iddi ddyfod i adnabod ei gŵr yn well, penderfynodd Jên ddangos ei bod yn ddynes o farn addfed ar bethau llenyddol, ac atebodd:

"Wel, Robin bach, 'rwyt ti'n gwbod yn well na fi, ond fe allwn i feddwl y byse'n llawer rhwyddach i ddweyd hynna heb iwso'r farddoniaeth."

Bu Robin bron llewygu wrth ei chlywed, ac ni cheisiodd Jên byth mwyach feirniadu barddoniaeth ei gŵr, ac y mae gan Robin feddwl uchel iawn am ei chwaeth a'i barn mewn llenyddiaeth.

Ond os na fydd y wraig wrth law, dyn helpo'r cymdogion! Mae Robin, ar ôl gwneud pennill, fel iâr wedi dodwy—mae'n rhaid iddo glochdar nes y daw'r holl ardal i wybod am yr wy! Yr unig un sydd yn cael llonydd ganddo yw Nat. Mae blynyddoedd oddi ar pan fu Robin yn yr efail, ac nid yw yn ymddiddan byth â'r gof, hyd yn oed yn y Red Lion, os na fydd rhaid. Flynyddoedd yn ôl yr oedd Robin yn galed wrthi yn gorffen ei Bryddest—ei Bryddest fuddugol, fel y digwyddodd,—ar "Caleb." Mae'n debyg na cheir llawer o hanes y gŵr da hwnnw mewn Beibl nac esboniad, ac yr oedd y teiliwr mewn cryn drafferth ynghylch cyfansoddi Pryddest ar y testun heb fod dan 400 o linellau. Ar y ffordd adref o Ffair Fedi, gerllaw'r efail, cafodd Robin weledigaeth newydd, yr hon a'i galluogodd i ddwyn y Bryddest "i fwtwn," ys dywedodd yntau. Eisteddodd ar ochr y clawdd, ac ysgrifennodd y llinellau ar gefn envelope, rhag iddo eu hanghofio. Yna rhedodd, yn ôl ei arfer, i'r tŷ nesaf i'w darllen—a'r efail, fel y digwyddodd, oedd hwnnw. Cyn cyfarch Nat, dyma'r teiliwr yn dechrau adrodd y llinellau—"yn bwrlwmu," meddai Nat wrth adrodd