II.
Blodau gwynion oedd yn dilyn
Olion camre ysgafn Rhywun;
Ni ches i'r fath dynged felys—
'Deryn du sy'n canlyn Gwladus.
III.
Os fy ngwefus sy fel ceiros
Yn dy ddenu ati'n agos,
Cofia, 'r 'deryn du, mor galed
Yw calonnau ceiros addfed!
IV.
Gwyn yw'r eira ar Eryri—
Gwynder sydd yn cuddio oerni
Oerach nag oer eira'r mynydd
Calon Gwladus at y prydydd.
V.
Gwir fod 'falau pêr Glan Tywi
Dan y dant fel mêl yn toddi;
Her it ddweud ai sur ai melys
Ydyw'r cusan sydd gan Gwladus!
"Wir, Miss Bowen," meddai Leisa, ar ôl clywed y penillion, "rych wedi ffysto'r hen Robin yn lân! A chi na'th rheina'ch hunan fach?""
"Ie, wrth gwrs," atebai Gwladus, "pam 'rych chi'n gofyn?"
"Wel, na chyffra i, 'daf fi ddim yto at Robin, wa'th 'rych chi'n gallu prydyddu'n well na Watcyn Wyn."
PENNOD XIII.
LLYTHYRAU GWLADUS AT BOB.
NI cheisiaf roddi hanes manwl o'r plwyf a'r plwyfolion yn ystod arhosiad Gwladus yn y Gelli, canys oni cheir y cyfan yn ysgrifenedig yn Nyddiadur Dafi Jones, os teimla neb yn gywrain yn ei gylch? Yno gwelir, mewn du a gwyn, pwy bryd y cynhaliwyd y preimin yng Nghoed Weddus, a phwy oedd yr aradwyr gwobrwyedig; beth oedd testun Mr. Thomas yn Salem Sul ar ôl Sul, a phwy bryd y cyhoeddwyd