Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth rai o'n ffrindiau yn Llundain; ond nid yw Benni Bach nac Arthur Jones wedi anfon gair ataf wedi iddynt ymadael.

(Mae Bob wedi gosod marc glas mawr dan y frawddeg ddiwethaf. Fe allai ei fod yn credu fod hon yn esbonio prudd-der ac anobaith y rhan arall o'r llythyr).

PENNOD XIV.
EISTEDDFOD LLANELWID.

MAWRTH 2.—. . . O, Bob! ti fuaset wedi lico'r Eisteddfod ddoe! Daeth Arthur Jones lawr yn unig swydd o Lundain i gymryd y gadair, ac fe wnaeth shwd araith dda. 'Roedd pawb yn ei chanmol drwy'r holl le. 'Down i ddim yn meddwl y gallai Arthur siarad cystal, ac y mae gydag e'r fath lais clir a thyner! 'Rwy'n ffaelu deall paham nag yw e'n well cantwr. 'Roedd ei dad a'i fam yno, ac yr oeddynt yn edrych mor bles a hapus a balch. 'Roedd yn gwneud lles i enaid dyn weld yr hen bobl!

Cafwyd llawer cystadleuaeth ardderchog. Tom y Waginer—"Eos y Gelli" yw ei ffugenw—a gafodd y wobr am yr Unawd Tenor, ac, yn wir, nid oes ganddo lais gwael o gwbl. Bu'n dynnu tyn rhwng côr Undebol Llanelwid a chôr Llangoediog ar y brif dôn, "Mor weddaidd ar y Mynyddoedd." Ond dyfernais y wobr, ar air a chydwybod, i Langoediog,—er mawr siomiant i wŷr Llanelwid ac i mi fy hun. "Robin o'r Llwyn" a gipiodd dy wobr di am y penillion ar "Fedd Llewelyn." Cyn addurno'r Bardd, adroddodd Arthur pa fodd yr oeddit yn gobeithio dathlu Gŵyl Dewi gyda Chymry Johannesburg, ac ymysg "cymeradwyaeth fyddarol," dywedodd dy fod yn meddwl dod yn ôl cyn diwedd yr haf i ymweled â'th hen gartref. Pasiwyd penderfyniad brwdfrydig o ddiolch-garwch i ti am y wobr, a'th rodd o £5 at y Ddarllenfa.—Hen greadur rhyfedd yw Robin hefyd! Pan esgynnodd i'r llwyfan sicrhaodd fi na chyfansoddodd erioed y fath linellau o'r blaen. Credai nad oedd bai na choll ynddynt o'r dechrau i'r diwedd, a dywedai ei fod yn hollol fodlon i'r oesau a ddêl farnu ei awen wrth y penillion hyn. Siarsiodd fi i ddanfon copi atat ar