fyrder, "oblegid," meddai, "er nad yw eich brawd yn fardd yn ôl braint a defod, ni fedd Cymru benbaladr feirniad craffach nag ef."
Mae Robin yn awyddus iawn i gael dy "farn onest" di am y penillion. Ti wyddost beth yw ystyr hynny, oblegid "bardd a llenor" y'i geilw Robin ei hun. Ond dyma'r penillion i ti:—
BEDD LLEWELYN EIN LLYW OLA'.
I.
Bu farw ein Llewelyn
Drwy rym estronol gledd!
Bu farw yn esgymun,
Heb weddi dros ei fedd!
Dirmygwyd ef gan fonedd
Ac eglwys gaeth ei wlad;
Ond gan y werin ffyddlon, fud,
Drwy lawer canrif ar eu hyd,
Fe gadwyd ei goffâd.
II.
Pa le mae bedd y gwron?
Nis gŵyr ond engyl nef!
Nid oes na chroes na cholofn
Yn atgof arno ef.
Fel Moesen hen, yn ddirgel,
O halog olwg dyn,
Mewn llannerch lonydd, dawel,
Fe'i claddwyd wrtho'i hun.
III.
Cymylau'r nef yn unig
A wylent uwch ei fedd,
A'r gwyntoedd trist gwynfanent
Eu mwyn alawon hedd:
A blodau gwyllt y mynydd
Mewn galar blygent ben
Ar ôl y gŵr fu farw
Dros ryddid Cymru Wen!
Mi ddylet fod wedi clywed Arthur Jones yn rigan yr hen Robin ar ôl yr Eisteddfod.
"Ydach chi'n meddwl, 'rwan, Doctor Jones," ebe Robin, "y buasai gwerthiant ar lyfr bychan o Delynegion dan yr enw Robin yn Pyncio'?"