oherwydd prinder amser, ni ddarllenwyd y feirniadaeth ar goedd.
"Dywed fod gennych fwy o gof nag o wreiddiolder, Robin," meddai Arthur, "ac mai adlais o gân Ceiriog yw'r pennill diwethaf. Gyda chi mae'r cymylau'n wylo a'r gwynt yn cwynfan, a'r blodau yn plygu eu pen. Ond mae Ceiriog, o'ch blaen, wedi dweyd fod:
'Dagrau y cwmwl yn gwybod amdano,
A deryn y mynydd yn 'nabod y bedd;
Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed
Fod calon hen Walia yn curo'n lled wan".
"Doctor Jones!" ebe Robin, wedi ffromi yn aruthr, "yr ydach chi, neu y beirniad, wedi dwyn i'm herbyn gyhuddiad cywilyddus. Ni cheir, syr, llên-ladrad yn Llanelwid.' Fe allai i'r un drychfeddwl wibio drwy fy meddwl i a meddwl Geiriog—digwydd hynny yn fynych gyda llenorion a beirddion uchelryw. Oni chyhuddwyd Elis Wyn o lên-ladrad? Ac oni chollodd Cymru weledigaeth arall gan y Bardd Cwsg yn herwydd y cyhuddiad creulon hwnnw? Na nid lleidr yw gŵr y llodrau. Mae gennyf fi, fel pob bardd arall, hawl i alw ar natur i wylo ar ôl gwrthrych fy molawd. Oni ddywedodd hen Iolo mai ofer fuasai hau ym Môn ar ôl marw Tudur Fychan:—
'Na sonier am a dderyw
Na lafurier,—ofer yw;
Na chwardder, yn iach heirddion,
Na hauer mwy yn nhir Môn!'
Ac os galwaf ar alluoedd natur i alaru, beth a all y cymyl wneud ond wylo, neu'r gwynt ond cwynfan. Na, Doctor Jones, nid gofyn a ddylech p'un a wnaeth Ceiriog ddefnydd o ffigwr neilltuol o'm blaen i, ond pa un ai Ceiriog ai myfi a wnaeth y defnydd gorau ohono?
A haeraf, mentraf i mi
Ar Geiriog dra ragori."
A chan chwythu bygythion a chynghanedd, ymaith â Robin a'i hwyliau'n llawn o wynt, a'n gadael ninnau yn