chwerthin ar ein gwaethaf. Ond, chwarae teg iddo, ni fachludodd yr haul ar ei ddigofaint. Cyn y cyngerdd daeth at Arthur, a dywedodd, gan estyn ei law:
"Doctor Jones, y mae yn wir ddrwg gennyf i mi golli fy nhymer. Hen Robin drodd yn rebel.' Dylwn fod yn eich adnabod yn well. Maddeuwch i hen fardd. 'Anghofier fy nhymer hy.' Eich llaw, Doctor Jones. 'Does neb yn teimlo'n anwylach ohonoch na fi. 'I Lanelwid eilun ych;' ac i minnau bydd hyn yn wers i roddi ffrwyn ar fy nwyd.
I'r bardd gwyllt try hyn er budd,—
Robin a gymer rybudd!"
Ac ymadawodd y ddau yn ffrindiau mawr!
Ar ôl gwneud y cownt i fyny, cafwyd fod gennym dros £20 0 elw, a chyda'th bum punt di, mae gennym £25 at gychwyn y Ddarllenfa y gaeaf nesa'. 'Chredi di ddim mor falch 'rwy'n teimlo . . .
Ar ôl y Consert, daeth Arthur Jones i'm hebrwng adref i'r Gelli, wa'th 'ro'dd nanti wedi mynd 'nôl yn gynnar. Garw fel mae e'n datblygu! Mae'n gwneud lles i fi siarad ag un mor dawel, mor synhwyrol, mor ddeallgar, ac yr oedd yn siarad mor garedig am ei rieni, ac yn dweud ei fod yn gobeithio y buaswn yn eu lico. . .
PENNOD XV.
YR EOS YN LLANELWID.
NI roddaf ragor o ddyfyniadau o lythyrau Gwladus at Bob, er y gwnaf ddefnydd ohonynt o hyn hyd y diwedd. Ceir ynddynt gyfeiriadau mynych at y digwyddiadau a adroddaf yn fy ffordd fy hun; ond ni welir ynddynt ond cipdrem unochrog ar yr helyntion a fwriadaf ddisgrifio, a bu raid i mi chwilio dyddiadur Dafi Jones, a chasglu rhai pethau oddi ar dafod-leferydd y plwyf cyn dyfod o hyd i'r holl fanylion.
Ni cheir ond y peth lleiaf o sôn am Arthur Jones yn llythyrau Gwladus o hyn allan. O'r braidd y gellir dyfod ar draws ei enw; ymgripia unwaith neu ddwy i lythyr fel pe o'i hanfodd, a llecha mewn cornel fel un a chywilydd arno ddangos ei