Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyneb. Ond am Rowlands y ciwrat—nid oes diwedd ar y sôn amdano! Yn awr y mae Mr. Rowlands yn gwneud hyn, bryd arall y mae Mr. Rowlands yn dweud y peth arall. Ceir llawer mwy o hanes Mr. Rowlands na hanes Gwladus, dyweder, neu Mrs. Morris. Diau fod Bob yn meddwl fod gormod o sôn am y ciwrat newydd—oblegid nid yw Bob yn or-hoff o offeiriaid—ond, er hynny, ni fynegwyd iddo mo'r hanner. Cefais lawer o drafferth yn ôl llaw cyn gwybod y cyfan, ac yr wyf yn benderfynol o ddweud yr hanes yn union fel y bu, heb ofni gwg na chrefu ffafr neb. Mae yn llawn bryd, erbyn hyn, i bobl Llanelwid gael gwybod pa sail y sydd i'r gwahanol ystorïau am Gwladus a'r ciwrat.

Cyn belled ag y gallaf fi ddeall, ar nos Sul, y diwrnod diwethaf ym mis Mawrth, y dechreuodd y cyfan. Digwyddai Mr. Rowlands a Nat fod yn cydgerdded â'i gilydd o'r pentref ar ôl cwrdd y bore.

"Mae'n dywydd hyfryd, Nathaniel Williams," ebe'r ciwrat—oblegid, er nad oedd y ddau yn ddim gwell na "ffrins gwŷr bon'ddigion," ni chymerai Mr. Rowlands y byd am beidio cyfarch pob un o'r plwyfolion ar y ffordd.

"Ody mae hi, syr," atebai Nat. "Dwy' i ddim yn cofio shwd dywydd hindda yr amser hyn o'r flwyddyn o'r blaen. Mae'n syndod pwy mor gynnar mae popeth leni! Mi glywodd Dafi Jones y gwcw wthnos yn ôl ar gaeau Coed Weddus, a mae'n nhw'n gweyd wrtho i fod yr eos yn canu yng ngho'd y Parc!"

"Do's dim shwd beth," dywedai Mr. Rowlands. "Dyw'r eos byth yn dwad ffordd hyn, ody hi?"

"Nag yw fel arfer," meddai Nat, "ond 'do's dim mwy o ddal arni hi nag sy ar y rhest o'r canwyr 'ma! Rhai rhyfedd o whit-what ydyn nhw i gyd-weithe man hyn a weithe man draw! Mi glywes gen 'y nhad iddi fod yn canu yn y Parc dair blynedd o'r bron, er nad mor gynnar â hyn, ond 'ro'dd hynny'n mhell cyn cof gen i."

"Dier mi!" ebe Mr. Rowlands, "pwy fyse'n meddwl clywed eos yn Llanelwid!"

Ni wnaeth Nat un ateb, ond trodd yr ymadrodd at ryw bwnc arall. P'un a oedd y gof yn credu'r stori sydd fwy na all neb yn awr benderfynu. 'Rwy'n lled-dybied ei fod. Beth bynnag, cyn y nos yr oedd Mr. Rowlands wedi gwneud y