Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gŵr y Dolau.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GŴR Y DOLAU:
NEU
FFORDD Y TROSEDDWR



RHAGARWEINIAD.

PE chwilid Llundain ben bwy gilydd, ni ddigwyddid ar gwmni mwy difyr nag a welid yn ystafell "Bob 'y mrawd," a Gwladus, ei chwaer, ar nos Wener cyn Nadolig, 1895, yn No. 2, Cambridge Mansions, gerllaw'r Amgueddfa Brydeinig. Wrth edrych ar yr wynebau llon, a gwrando ar y rhialtwch trystfawr, anhawdd fuasai gan neb gredu fod gofal byd yn blino un o'r fintai ddiddan. Eto, nid oedd y llawenydd ond arwynebol, oblegid wedi dod i ffarwelio â Bob yr oedd ei gyfeillion.

Gyda'r wawr drannoeth yr oedd Bob yn hwylio tua Deheubarth Affrica, ac ni wyddai neb pa bryd y gwelid ef drachefn yn Cambridge Mansions. Gofidiai degau ac ugeiniau o Gymry ieuainc y Brifddinas pan glywsant y newydd.

"Robert Bowen yn 'madael!" meddent. "Beth ddaw o'r Eisteddfodau a'r Cyngherddau a'r Cyrddau Diwylliadol pan na fydd ef gyda ni?"

Canys nid oedd un cyfarfod Cymreig yn gyflawn yn Llundain er ys blynyddoedd heb Bob, a galerid ar ei ôl gan lu nad adwaenai ef mo'u hwynebau.

Ond ymaith yr oedd yn rhaid i Bob gychwyn, ac i bellteroedd daear. Newyddiadurwr oedd Bob o ran ei "grefft." Yr oedd si yn y gwynt fod Cecil Rhodes yn cynllunio rhywbeth mawr, a phenderfynodd perchenogion newyddiadur Bob ddanfon gohebydd arbennig i Ddeheubarth Affrica. Gan fod Bob wedi ennill ymddiriedaeth y golygydd, arno ef y syrthiodd y goelbren. Nid gwiw iddo feddwl am ballu; yr oedd y cyfle yn rhy werthfawr i'w wrthod; ac er mor galed ymadael, a thorri eu cartref bach i fyny, penderfynodd Gwladus a Bob gadw eu calon yn siriol, gan edrych yn hytrach at daledigaeth